Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau THE NATIVE NEVER RETURNS [W. Griffiths, Llundain, tud. 203, 7s. 6c.]. Gan Thomas Jones, C.H. Pan giliodd awdur galluog y gyfrol hon, yn gynnar ar ei yrfa i encilfeydd y Gwasanaeth Sifil, collwyd athronydd gwleidyddol gwych, a hanesydd economaidd penigamp. Ond enillwyd y cyfuniad amheuthun hwnnw-ysgol- haig a man of affairs. Mor fynych y gwelir yr ysgolhaig yn gwbl amddifad o'r osgo ymarferol ar bethau, a'r gwr ymarferol yntau yn amddifad o ddiwyll- iant. Bradycha'r casgliad hwn o anerchiadau ac erthyglau-canys dyna ydyw'r llyfr-feddwl cynhenid finiog, llwyr ac eang ei gynhysgaeth, a aeddfedwyd trwy gydol oes o brofiad mewn gwleidyddiaeth ymarferol. Credaf, fodd bynnag, y rhydd yr awdur ar dudalen 139 y disgrifiad ohono'i hun a gâr fwyaf-" a student of politics." Dywed wrthym yn yr anerchiad a rydd ei deitl i'r llyfr iddo adael Caerdydd yn gynnar yn y ganrif am Lundain. Dengys yr anerchiad hwn mor hir y bu oddi cartref, a threm mjor dreiddgar a daflodd ar ei henwlad pan ddychwelodd. Yn lle Rhyddfrydiaeth dechrau'r ganrif gwelodd pan ddychwelodd y Blaid Lafur a'r Blaid Genedlaethol; yn lle'r Gwyddoniadur a gyhoeddwyd yn nhri degau'r ganrif o'r blaen daeth Llyfrau'r Dryw; yn lle diwinyddiaeth gadarnhâol y Dr. Miall Edwards yn Ysgol Háf Llandrindod yn 1913, cafodd amhendantrwydd crediniol y Dr. Iorwerth Peate yn ei lyfr Sylfeini yn 1937 ac yn lle gweithiau Josephus daeth y Stori Fer. Dywed Dr. Jones wrthym fod peth o'n gwleidyddiaeth erbyn hyn yn Ffasgaidd, peth o'n pregethu-o leiaf hynny a wrandawodd Dr. Jones arno-yn amherthnasol ei gynnwys ac yn hen ffasiwn ei idiom; ond y mae ein prydyddiaeth yn uwch ei safon os yn llai mewn maint. Tybed a ddylem amau'r gosodiad hwn am ein barddoniaeth, neu ei gymhwyso i'r farddoniaeth a ddarllenid ddechrau'r ganrif yn hytrach na'r hyn a gynhyrchid? Wedi'r cwbl ymddangosodd Caniadau Syr John Morris-Jones yn 1907, Ymadawiad Arthur a Chaniadau Ereill yn 1910, a Chaneuon a Cherddi W. J. Gruffydd mor gynnar â 1906. Sut bynnag am hynny rhydd yr anerchiad hwn syniad mor bell y cerddasom, er gwell neu er gwaeth, mewn ychydig dros chwarter canrif o amser. Dywed yr awdur bethau miniog iawn am Blaid Genedlaethol Cymru. Y mae'r broblem yn bwysig; yn bwysicach lawer na'n rhagfarnau o blaid neu yn erbyn, ac yn bwysicach, mi gredaf, na'n hawydd i osgoi ystyried pynciau dadleuol y mae teimladau dwfn ynglyn â hwy. Y mae cweryl y Dr. Jones â'r Blaid Genedlaethol yn gwreiddio'n ddwfn, oherwydd fe wâd ef brif erthygl ffydd y Blaid 'Genedlaethol, sef bod yn rhaid wrth ffrâm o wleidyddiaeth annibynnol cyn y gellir diogelu diwylliant Cymru. Gesyd y Dr. Jones ei ffydd yn y gyfundrefn addysg ac mewn llywodraeth leol, ac mewn hybu sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Ond uwchlaw dim fe obeithia oddi