Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

REDEMiPTION AND REVELATION: H. Wheeler kobinson, M.A., D.D., Princiỳal of Regent's Park College (London and Oxford). Pp. xlviii f 32o. Nisbet & Co., 1942. 12/6 net. Perthyn y gyfrol hon i gyfres a elwir The Library of Constructive Theology," ac a roddodd inni eisoes nifer o lyfrau gwerthfawr. Yr oedd y diweddar Brifathro Wheeler Robinson yn un o olygyddion y gyfres, ac nid anfuddiol yw sylwi ar ei hamcan a'i nodweddion. Yn y Rhagair Cyffredinol dywedir bod yr Eglwys mewn argyfwng mawr ac er hynny bod ei chyfle'n ddigymar. Tardd yr argyfwng i fesur o wrthryfel ein hoes yn erbyn awdurdod; ac felly hollol ddifudd yw esbonio ac amddiffyn syniadau a goleddir ar sail awdurdod. Ni thycia dim ond ceisio meddwl allan, yn wrol a didwyll, ystyr datganiadau sylfaénol Cristionogaeth a'u deall a'u dehongii yng ngoleuni gwybodaeth fodern. Rhoddir pwys ar werth a dilysrwydd profiad crefyddol (gan roddi iddo ystyr eang), a gwneir ymgais i seilio datblygu diwinyddiaeth ar yr ymwybyddiaeth grefyddol. O ganlyniad ychydig o le, yn ôl yr herwydd, a roddir yn y cyfrolau hyn i esbonio'r Beibl a'r mynegiant clasurol o'r Ffydd Gristionogol. Yn y gyfrol dan sylw prin yw'r cyfeiriadau at hanes Athrawiaeth yr Iawn ac at y diwinyddion y cysylltir eu henwau â'r athrawiaeth honno. Er enghraifft, wrth edrych ar Fynegai Enwau" ceir un cyfeiriad at Abelard, un at Anselm, pedwar at Awstin Sant, tri at Bushnell a McLeod Campbell, dau at Calvin, un at Jonathan Edwards, tri at Moberly, un at Ritschl, ac at Schleiermacher-a chymryd ychydig enwau ar antur. Ar un olwg nid yw'r gyfrol yn Feiblaidd chwaith, gan na roddir ynddi gyflwyn- iad o brif linellau athrawiaeth y Testament Newydd. Tebycach ydyw i draethawd athronyddol. Ond er hynny sail y llyfr yw syniad sy'n sylfaenol yn yr Ysgrythur, sef bod i hanes ystyr ac arwyddocâd i'r tragwyddol yn ogystal ac i amser. Datguddiad mewn hanes, ac iachawdwriaeth mewn hanes a ddysgir yn yr Ysgrythur. Baich y llyfr hwn yw mai'r ffordd y mae Duw yn ei ddatguddio ei hun yw'r iachawdwriaeth a gyflawnir yn y Cristion ac y mae gan Gristion brofiad ohoni. Datguddir yr iachawdwriaeth hon mewn ffrâm hanesyddol; un o'r cwestiynau cyntaf a ystyrir yw beth yw ystyr hanes? Y mae hanes, er mai rhywbeth mewn amser ydyw, yn perthyn i'r drefn dragwyddol, canys mewn amser y sylweddolir gwerthoedd tragwyddol. Gall dyn ganfod ystyr digwyddiad a'i arwyddocâd ysbrydol. Y mae'r drefn ysbrydol yn cynnwys, yn cyfuno, ac yn rhagori ar yr hyn a roddir mewn lle ac amser. Y mae i hanes Ie fel rhan o'r gyfundrefn ysbrydol a thragwyddol. Yn rhan gyntaf y llyfr, dadleua Dr. Robinson bod profiad y Cristion yn sylfaen digonol i'r gred mewn dirwedd. Onid oes modd i ddyn ei dwyllo ei hun pan fo'n creu ffaith ysbrydol allan o ddigwyddiad? Mewn dwy bennod ddiddorol y mae'r awdur yn trafod Gweinidogaeth Cyfeiliornad ac Arwyddluniaeth Iaith." Os oes perthynas rhwng Duw y Creawdwr a dyn,