Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bechadur; nid yn unig cyfeiliorna fel bod meidrol ond ei hanes yw gwrth- ryfel ac ymddieithrio oddi wrth Dduw. Ni ellir gwadu gwirionedd sylfaenol ymresymiad yr awdur fod y Duw tragwyddol wedi ei ddatguddio ei hun yng nghroes ei Fab a bod iachawdwriaeth a datguddiad wedi eu cysylltu yn annatodol mewn amser. Ond y mae amcan y gyfres yn ei orfodi i ddod at ei broblem o ochr dyn a'i brofiad, ac ar hynny y rhoddir y pwys. Nid yw'r bennod olaf ar waith yr Ysbryd Glân ond crynodeb o lyfr yr awdur (yn yr un gyfres, 1929) The Christian Exŷerience of the Holy Sŷirit, a hwnnw, yn ei dro, yn cydio wrth lyfr cynharach o'i eiddo, The Christian Doctrine of Man. Cyfraniad pwysig yw'r tri llyfr hyn i ddiwinyddiaeth ein cyfnod. Bellach galwyd Dr. Wheeler Robinson oddi wrth ei waith at ei wobr. Cyflawnodd waith mawr yn ystod ei oes: efallai mai ei gyfraniad i ddiwinyddiaeth yw'r peth mwyaf awgrymiadol ac effeithiol a wnaeth. Aberystwyth. W. R. WILLIAMS. DIOGELU DIWYLLIANT AC YSGRIFAU ERAILL, gan Hywel D. Lewis. M.A., B.Litt. Tud. 117. Lerpwl, Gwasg Y Brython, Hugh Evans a'i Feibion. Pris, 3/6. Hanner dwsin o erthyglau neu ysgrifau sydd yn y llyfr hwn, a'r cwbl, fel y dywed yr awdur yn ei ragair, yn ymdrin â rhyw agwedd neu'i gilydd ar ddiwylliant Cymreig; a'r cwbl hefyd, meddwn innau, yn dadlennu rhyw agwedd neu'i gilydd ar yr awdur ei hun. Cymro ifanc ydyw, Cymro ifanc o athronydd, a darlithydd ar athroniaeth yn un o golegau Prifysgol Cymru. Ac wrth ddweud hynyna, dyna fi wedi dweud hefyd pam yr ysgrifennodd bob tudalen ohono. Datguddiad yw o Hywel Lewis ei hun-a hynny heb geisio. Ysgrifenna fel Cymro sy'n pryderu am y Gymraeg a Chymreigrwydd, yn yr oes hon, a'r dyfodol. Hyfryd yw ei weld yn ymgyffroi, ac yn cynddeiriogi wrth drafod sylw ffôl gan C. E. M. Joad am ein hiaith a'n llên (td. ττ-τ3). Sonia am "hurtrwydd dybryd y geiriau," "cwbl gelwyddog," "cyfeil. iornad," "diffyg chwaeth," hollol anwireddus," gan ddangos nad yw ysgolheictod athronyddol wedi parlysu dim ar ei dafod wrth ateb sen y Sais hwn. Mwy na hynny, yn Saesneg y cyhoeddodd yr ysgrif hon gyntaf, er mwyn cyrraedd hyd adref; a chyfieithiad ohoni i Gymraeg (gan Dr. R. T. Jenkins) sydd yn y llyfr. Felly y gweddai; ateb y ffôl yn iaith ei ynfyd- rwydd. Ond yn wir nid yw'n werth i Gymro drafferthu am ennyd awr beth yw barn na rhagfarn C. E. M. Joad amdanom. Ef yw'r gŵr yn haerllug- rwydd ei anwybodaeth a ddywedodd yn y Brains Trust Saesneg mai barddon- iaeth sâl oedd y Mabinogion Gan mai chwedlau mewn rhyddiaith yw'r gorchestion hynny, onid chwerthin am ben y cyfryw feirniad, a'i anwybyddu'n llwyr ac am byth yw'r peth iawn i wneud? Ie, mae'n debyg, ac eto mae'n lles weithiau ddatgan ar goedd beth yw gwir ansawdd y cyfryw. Nid oes angen i ni ymboeni mwy ag ef, nag â'i fath.