Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD John Wesley a William Law I TESTUN Darlith Fernley-Hartley am y flwyddyn 1945 ydyw pennawd yr'ysgrif hon. Darlith yw a draddodir yn flynyddol ynglyn â Chynhadledd yr Eglwys Fethodistaidd. Amrywiol yw'r testunau y traethir arnynt, a chyfoethogwyd llenyddiaeth Feibl- aidd drwyddynt. Awdur y Ddarlith o dan sylw yw'r Parch. J. Brazier Green, M.A., B.D. Perthynas dau wr enwog a'i. gilydd ydyw'r maes-John Wesley a'r cyfrinydd William Law. Nid oes angen dweud pwy oedd y cyntaf. Ef, yn ddiau, oedd un o arweinwyr mwyaf yr Eglwys Gristionogol o'r dechrau hyd yn awr. Gesyd Dr. T. R. Glover ef yn yr un dosbarth a Phaul, Awstin a Luther. Nid yw enw William Law mor hysbys, er y rhestrir ef ymhlith yr awduron Seisnig gorau mewn unrhyw gyfnod. Diau mai fel awdur y llyfr, The Serious Call, y cedwir ei enw yn fyw. Yr oedd wedi cyhoeddi llyfrau ar y Sacramentau a'r Christian Perfection cyn hynny. Ar ôl eu cyhoeddi hwy ysgrifennodd ei lyfrau aeddfetaf. Daeth ó dan ddylanwad y cyfrinydd Jacob Boehme o'r'Almaen, a'r cyfnod hwn ysgrifen- nodd lyfrau a restrodd ei enw yntau ymhlith cyfrinwyr mawr yr Eglwys. Ei weithiau pwysicaf ar hyn ydynt Christian Regenera- tion; An Appeal; The Spkit of Prayer a The Spirit of Love. Dechreuodd astudio cyfriniaeth yn fore. Gwelir hedyn ei ddysgeidiaeth ddiweddarach yn y rheolau a dynnodd iddo'i hun pan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Tebyg mai dyna'r adeg y daeth i gyffyrddiad gyntaf â gweithiau'r cyfrinwyr. Prawf o ansawdd ei feddwl ac annibyniaeth ei ysbryd ydoedd iddo'r adeg hon wrthod cymryd llw o ffyddlondeb i'r Brenin Siôr y Cyntaf. Trwy hyn collodd yr hawl i urddau Eglwysig. Gloes oedd hynny iddo gan fod ei fryd ar y Weinidogaeth. Diau y buasai drysau pwysica'r Eglwys yn agored iddo ar gyfrif ei alluoedd disglair a'i gymhellion uchel. Llythyr nodedig yw'r un a anfonodd at ei frawd i ddeisyf arno leddfu siom ei fam