Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tadolaeth Duw yn yr Hen Destament AMCAN yr erthygl hon yw datgan yr hyn a ymddengys imi fel gweddau pwysicaf dysgeidiaeth yr Hen Destament ar yr athraw- iaeth o Dadolaeth Duw, gan gadw mewn cof eu datblygiadau yn y Testament Newydd yng ngolau ymchwiliadau diweddar ynglyn â'r Hen Destament. Sylfaenwyd y Testament Newydd yn gadarn ar yr Hen. Y mae hyn mor amlwg yn y pwnc sydd dan sylw gennym ag ydyw mewn pynciau eraill y gellir yn haws ganfod eu datblygiad parhaol yn nau raniad y Beibl. Hynny yw, nid yw dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu a'r Apostolion yn groes i saf- bwynt yr Hen Destament. Os yw dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu ar Dadolaeth Duw i'w hystyried yn wreiddiol mewn unrhyw ystyr, ni ddylid edrych arni fel peth cwbl newydd neu hollol wahanol i ddim a ddysgwyd o'r blaen, na chwaith fel rhywbeth sydd yn golygu tor pendant rhwng y ddau Destament. Y mae'r Testament Newydd yn cysylltu Tadolaeth Duw â chynllun llawer lletach nag a wneir yn yr Hen Destament. Gwna hyn drwy ehangu syniadau'r Hen Destament. Y mae hyn yn nodwedd amlwg yn nysgeidiaeth yr Apostolion. Gwelwn, er enghraifft, gysylltu'r syniad â'r elfen escatolegol yn y Testament Newydd. Wrth gymhwyso Daniel vii. 10-14, sieryd yr Arglwydd Iesu am ddyfodiad Mab y Dyn fel Barnwr pawb a'i fod hefyd yn dyfod yng ngogoniant ei Dad (Marc viii. 38). Felly yn 1 Corinthiaid xv. 24, y Tad a wneir yn Gynhaliwr pob llywodraeth yn yr olygfa derfynol y tu hwnt i hanes. Ond peth arwynebol yw'r newydd- deb yn y cysylltiad escatolegol hwn gan mai athrawiaeth o'r H.D. yw'r gwirionedd hanfodol mai'r Tad yw sylfaen pob llywodraeth. Yr un modd ynglŷn â'r hyn a elwir cyffredinolrwydd syniad yr Iesu am Dadolaeth Duw, os golygir bod hwn yn welliant ar syniad yr H.D. ac yn ymadawiad oddi wrth gulni hwnnw, amlwg yw fod yma gam-ddeall gwedd bwysicaf y cyfeiriadau at Dadol- aeth Duw yn ei berthynas â'r genedl a geir mor aml yn yr H.D. Gwedd bwysicaf y berthynas hon yn yr H.D. yw'r disgrifiad a gynnwys o'r undeb bersonol agos a chyfriniol a fynegir lawnaf