Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llanrwst, Fy Nhad Rhifydda, gweld rhyfeddol Law Duw, ar bob ael a dôl. Ei ddoniau a'i adduned, A dawn ei groes, dyna'i gred Cymodi ffydd a gwyddor- Trosto mwy mae trwst y môr. Y doniol, siriol, seraff, Llety pridd i'r llatai praff! Tros Dduw ei ddadl, wr rhadlon, Och wys y llwch i was llon! Er ing, ni orfu'r angau, Yn y bedd uwch ben y bau. 0 ororau Eryri I gaer y Llan ger y lli. Wyt glyd yng nghlog y Gogarth, A di-boen yno dy barth; Danat y llafar donnau- Yn ei thwr dy ffydd ni thau. ALUN T. LEWIS.