Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diben yr Eglwys* SYLwN i ddechrau fod testun ein trafodaeth, fel y mae wedi ei eirio, yn rhagdybio un diben yn unig i Eglwys Dduw. Ond prin y gwna wahaniaeth mawr pa un ai yn y rhif lluosog ai yn y rhif unigol y geirir y testun. Ni ellir meddwl am nifer o ddibenion sydd yn ddibenion cyfreithlon i Eglwys Dduw nad ydynt yn gweini i'r un diben mawr. Ni ellir meddwl, chwaith, am ddiben digon cynhwysfawr i drethu adnoddau Eglwys Dduw drwy ganrifoedd o amser, nad yw wrth ei sylweddoli yn ymrannu yn nifer o is-ddibenion. Dichon i unrhyw sefydliad parhaus feddu un diben eithaf ac anuniongyrchol, ac amryw o is-ddibenion uniongyrchol yn ei berthynas â sefydliadau eraill mewn unrhyw gyfnod arbennig yn hanes y byd. Felly tybiaf nad yw o bwys yn y pen draw pa un ai diben ai dibenion yr Eglwys a ystyrir gennym. Byddaf yn ymdrin â'r naill a'r llall yn ddiwahaniaeth yn hyn o lith. Y mae un cwestiwn, fodd bynnag, na allwn ei osgoi os yw ein trafodaeth i feddu unrhyw werth o gwbl-sef beth a olygwn wrth yr Eglwys. Hawdd iawn yw dangos mor angenrheidiol ydyw ateb y cwestiwn, Beth a olygwn wrth yr Eglwys?" cyn y medrwn ateb y cwestiwn Beth ydyw diben yr Eglwys?" Y mae unrhyw drafodaeth ar natur neu ar ddiben Eglwys Crist yn rhwym o ddisgyn yn rhywle rhwng dau begwn. Ar un llaw mae yr hyn a alwaf, am y tro,, yn begwn empeiraidd, h.y., yr Eglwys fel sefydliad arbennig ymhlith sefydliadau eraill yn y cymhlethdod o sefydliadau ac organyddiaethau sy'n cyfansoddi cymdeithas fel yr adwaenwn hi yn y byd o'n cwmpas. Dyma'r Eglwys fel ffactor gymdeithasol-hanesyddol. Yn y pegwn hwn y mae'n bodoli mewn amrywiol ffurfiau ac yn arddel amrywiol gredöau amdani ei hun. Ar y llaw arall y Traddodwyd cynnwys yr erthygl hon ar ffurf anerchiad yn Seiat Cyfarfod Pedwar Misol Henaduriaeth Lerpwl, a gynhaliwyd yn Eglwys Edge Lane, Chwefror 5ed, 1947. Fe wêl y cyfarwydd fy mod yn ddyledus iawn i lyfr meistrolgar Visser t'Hooft a J. H. Oldham, The Church and its Function in Society.