Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diwylliant Cymru Ei Ragolygon a'i Beryglon II Awgrymwyd yn yr erthygl gyntaf mai un o neweddion amlycaf y diwylliant Cymreig ydoedd ei naws grefyddol; y parch mawr i arweinwyr crefydd, i'r cyfarfodydd crefyddol a'r ordinhadau. Bu dylanwad y diwygiadau crefyddol yn fawr a chwareuodd y brwdfrydedd diwinyddol a grisialodd mewn enwadaeth, ei ran ni ellir chwaith anwybyddu'r Ysgolion Sul, a bod y plant a'r rhai mewn oed yn crefydda yn iaith eu mam. At hyn oll rhaid ychwanegu yr atgyfnerthiad a dderbyniodd y diwylliant trwy gyfrwng llenyddiaeth grefyddol. Rhy gymhleth a dyrys o lawer ydyw'r sefyllfa grefyddol heddiw i'w hystyried gydag unrhyw radd o fanylder. Fe ddichon nad doeth chwaith cymryd agwedd rhy bendant wrth drafod cyflwr crefydd yn anad unpeth: y mae'r gwynt o hyd yn chwythu lle y mynno." I fod yn deg hefyd rhaid cofio ddarfod i'r eglwysi wynebu dau gyfnod o ryfel o fewn chwarter-canrif i'w gilydd; collwyd llawer gwr a allasai fod heddiw'n golofn i'r achos." Cymerwyd, a llithiwyd ymaith lawer o fechgyn a genethod Cymru, o'r wlad a'r dref, yn ystod y chwe blynedd olaf hyn. Yn ychwanegol at yr amgylchiadau eithriadol hyn, daw ffeithiau eraill lled arwyddocaol i'r amlwg. Ni theimlwyd grym diwygiad crefyddol ers deugain mlynedd, ac fe gollodd crefydd gyfundrefnol ei gafael ar y werin bobl. Lleihaodd nifer aelodau'r Ysgol Sul, ac yn ôl tystiolaeth rhai, fe ddirywiodd safon ei chyfraniad. (Efallai mai hanner y gwir yw'r gosodiad olaf hwn hefyd, oherwydd prin y gellir cytuno bod yr hen ddadlau brwd, pan lusgid adnodau o'u cysylltiadau i brofi'r pwnc," yn goleuo llawer rhagor ar feddwl y werin na'r dull tawelach sy'n gyffredin heddiw.) Wrth gwrs fe roddodd yr hen ddiddordeb diwinyddol hwb i enwadaeth, ac felly help llaw i'r cyfundrefnau crefyddol hefyd, yn eu tro. Y sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw felly ydyw-fod enwadaeth yn aros mewn ffurfiau cyfundrefnol, er bod sylfeini