Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad EMYNAU A U HAWDURIAID Llyfr Emynau'r ddwy Eglwys Fethodist. aidd yng Nghymru, 1927. Gan y Parch. John Thichens. Y Llyfrfa, Caernarfon. 7/6. Llyfr hwylus iawn ydyw hwn, yn cyfleu gwybodaeth werthfawr a ibuddicl yn hylaw a rhwydd. Ni olyga hynny mai gorchwyl hawdd oedd ei gyfan- soddi, hyd yn oed i arbenigwr yn y maes. Yn hytrach, trwy drafferth enfawr, diwydrwydd ac amynedd, heblaw craffter a dawn, y gallwyd ei osod ynghyd. Y mae'r awdur yn adnabyddus am ei lafur cawraidd: bu ganddo lawer a heyrn gwahanol mewn tân gwresog ar unwaith, onid am ddegau o flynyddoedd. Yr oedd ei ddiddoidebau'n lluosog, a gelwid am ei wasanaeth yn llysoedd ei Gyfundeb, a phentyrrid gwaith ychwanegol arno, megis anrhydedd, am ei fod yn barod ac abl i'w gyflawni. Ond tynnai hyn ef yn ysbeidiol oddi wrth y gwaith neilltuol oedd ar ei raglen ef, a llithrai'r blynyddoedd heibio, neu'n ôl ei ddameg ei hun "datodai ei bellen yn gyflym." A hyn heblaw bagad gofalon bugail" eglwys wasgaredig yn y brifddinas, ac mewn rhan yn ystod chwe blynedd y Rhyfel, ynghanol peryglon o'r awyr i fywyd, ddydd a nos. Heb gais i osgoi beirniadaeth na chuddio bai, dywed bod rhannau'r gyfrol Heb gais i osgoi beirniadaeth na chuddio bai, dywed fod rhannau'r gyfrol orgraff, mewn ymdrech i ganlyn ffasiwn lenyddol y dydd, a hyd yn oed newid peth ar drefn y gwaith, mewn angof o'i lwybr dewisedig unwaith. Trawiadol yw ei fod yn gorffen ei dudalen o Ragair trwy ddweud, Yr eiddoch yn eich dyled." Yr ydym ni, ei ddarllenwyr, yn sicr, mewn dyled drom iddo ef, am ei ddyfalbarhad, a'i fuddugoliaeth ar rwystrau lu nes cwblhau ei dasg. Y mae eto'n aros yn y wlad ddosbarth o bobl a ymgyfyngant o ran cylch eu darllen o ddifrif i'r Beibl a'u Llyfr Emynau er nad yw mor gyfyng ychwaith, oblegid erys y naill yn Llyfr y llyfrau, a ffynhonnell ddihesb llenyddiaeth grefyddol bur; a'r Hall yn gorwedd yn esmwyth ar yr Ysgrythurau,-megis y ceir y ddeulyfr ar astell pulpud, neu ar fw>rdd yr allor yn ein cysegroedd, yn arwydd allanol o'u perthynas â'i gilydd. Hwy yw ein llyfrau defosiwn pennaf: y Llyfr Emynau yw ein Llyfr Gweddi hefyd. Trwy gyfodiad Beirniadaeth Ysgrythurol, fel gwyddor, daeth awduriaeth gwahanol lyfrau'r Beibl yn faes ymchwil, a thestun traethu beunyddiol; ac yn hytrach na'n bod bellach yn ystyried bod pob ysgrifennydd y ceir ei waith yn un o'r ddau Destament yn edrych ar bethau o'r un safbwynt a'i gilydd, a thrwy'r un gwydr, daeth ein harweinwyr i astudio'r gwahaniaethau rhyngddynt, a dysgu nad yw eu hysbrydoliaeth yn newid nodweddion hanfodol yr hanesydd neu'r bardd, y diwinydd neu'r moesegwr, y gweledydd neu'r cyfrinydd, ond bod pob un ohonynt yn dal yn fwy ffyddlon iddo'i hun. Yn gyffelyb byddai astudiaeth o wahanol awduron yr Emynau, eu hamser a'u hamgylchiadau, eu profiad a'u dawn, yn gymorth i ddeall a mwynhau eu cynnyrch; ac wedyn i'w canu â'r ysbryd ac â'r deall ar unwaith, oblegid nid yw'r ddau yn