Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Agwedd Ddynol Apêl yr Efengyl* Ceir yn y Testament Newydd fwy nag un dull o osod apêl yr Efengyl gerbron dynion, ac y mae hynny yn angenrheidiol os yw'r apêl honno i'w chyflwyno yn llawn a chytbwys. Weithiau, defnyddir ymadroddion sy'n pwysleisio na all dyn ei achub ei hun, ac mai Duw yw'r prif weithredydd yn ei achubiaeth­ Duw yng Nghrist yn cymodi y byd ag Ef ei Hun." Dro arall pwysleisir bod gan ddyn gyfraniad mor bwysig i'w wneud tuag at ei achubiaeth fel y dichon iddo farw hyd yn oed yn nwylo'r Duw sydd yn achub bywyd, oni wna y cyfraniad hwnnw-" Os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef." Â'r ochr ddynol yn unig y mae a wnelom ni yn y trafod hwn. Cymerwn yr ochr arall yn ganiatâol, gan sylweddoli nad yw'r un o'r ddau bwyslais ar ei ben ei hun yn dweud y cwbl am yr Efengyl, nac yn esbonio popeth. O'r ongl arbennig hon, cymerwn ddiddordeb yn yr Efengyl am ei bod yn pwysleisio gwerth cynhenid ac iawn urddas y bersonoliaeth ddynol, gan gondemnio pob sefydliad a chyfundrefn, boed grefyddol, boed seciwlar, sydd yn lleihau neu'n gwadu'r gwerth hwnnw; am ei bod yn cyhoeddi fod pob dim a gyfranna at ei gwir ddedwydd- wch hi o Dduw;" am ei bod yn condemnio ei phechod er mwyn ei hachub hi oddi wrtho. O'r safbwynt a ddewiswyd uchod dyna yw pwrpas yr Efengyl, lledu terfynau profiad dyn, a thrwy hynny ddyfnhau a chyfoethogi ac amrywio ei gynnwys, Myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach." O'r safbwynt ddynol neu hiwmanitaraidd hon y daw nifer cynyddol o bobl ein hoes ni at fywyd, heb nac amser nac amynedd ganddynt i ystyried dim byd-nae Efengyl, na theori, na chynllun,-oni fo'i ddeudroed yn fflat ar y ddaear hon. Condemniant bob pererindod metafíìsegol a phob dehongliad goruwch-ddynol am nad oes iddynt (meddent hwy) werth ymarferol." Ein "camgymeriad hyd yma yw na wnaethom fawr Anerchiad a draddodwyd yn Undeb Athrofa'r Bala, 1946.