Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro D. James Jones* GALARWN heddiw am y Parchedig Athro D. James Jones, M.A., a fu am dymor (1929-31) yn aelod o Fwrdd Golygu Y TRAETHODYDD. Hoffwn dalu teyrnged i'm cyfaill. 'Roeddwn yn ei adnabod ers blynyddoedd bellach, ef a'-i briod a'i blant, a dedwyddwch mawr imi bob amser oedd aros yn eu ty a mwynhau eu cymdeithas, oblegid yr oeddynt ym mhlith rhagorolion y ddaear. Ac fel rhagorolion y ddaear yn gyffredin gwelsant lawer o brofedigaethau. Dechreuodd eu profedigaethau yn ystod y rhyfel mawr cyntaf, pan oedd ein cyfaill yn gaplan yn Ffrainc. Niweidiwyd ef yno gan y nwy gwenwynig, a dyna ddechrau tanseilio ei iechyd, a dioddefodd lawer o dro i dro mewn amrywiol ffyrdd. Bu rhaid arno roddi heibio ei alwedigaeth o bregethu'r Efengyl­-gloes fawr iddo; oherwydd yr oedd nwyd pregethu yn gryf ynddo, ac yr oedd ganddo weledigaeth o genadwri'r efengyl. Cafodd waith arall wrth ei fodd yn Harlech a Bangor. Oblegid yr oedd yn athronydd o ran anian, ac yn hoff o drafod pynciau athronyddol gyda'i ddisgyblion a'i gyfeill- ion. Ond ni chafodd lwybr esmwyth yn y gwaith hwn. Bregus oedd ei iechyd ar hyd y blynyddoedd, ac nid hawdd ganddo oedd ei arbed ei hun. Gwaith anodd yw byw pan fo'r nerth yn annigonol i gyfarfod â galwadau bywyd; a dyna oedd ei brofiad ef am flynyddoedd lawer. Tybiaf y dywedai Amen llawn i eiriau Richard Jeffries, mai bywyd llawn corfforol, meddyliol ac ysbrydol oedd ei ddyhead dyfnaf. Nid hawdd oedd ganddo siarad amdano ei hun, ac felly ni chawsech lawer o'i brofiad. Deuech o hyd i hwnnw wrth ei glywed yn siarad am bethau a phobl eraill. Meddwl gwrthrychol yn hytrach oedd ganddo-meddwl yn chwilio am wirionedd, ac yn anodd ei foddio yn yr ymchwil, canys edrychai 'ar bob gosodiad gyda meddwl beirniadol. Ceisiai yn ôl tuedd yr athronydd ynddo weled byd a bod yn eu cyfanrwydd. Ond ei siomi a gafodd yn hyn. Brwydr galed ar lawer ystyr oedd byw Anerchiad yn ei angladd, Gorffennaf ?6, 1947.