Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddo ef, ond tybiaf mai'r frwydr fwyaf a gafodd oedd yr un a'i wynebodd pan fu rhaid iddo roddi i fyny'r Weinidogaeth. Ond daliodd y prawf: daeth drwyddo yn fwy na choncwerwr. Nid oedd na surni na chwerwedd yn ei ysbryd er maint ei siomedig- aethau. Gloywodd ei gymeriad a grymusodd. Yr oedd fel dur wedi ei dempro yn y ffwrnes a'r llifeiriant. Gwelodd fod ganddo lawer i ddiolch amdano. Yr oedd yn ffodus yn ei deulu, ac yn ffodus yn ei gyfeillion. Tynnai bawb ato­-plant yn arbennig. Daliodd ei ffydd yn ddiysgog. Ni feddyliai fod marw yn terfynu ei yrfa. Yr oedd y byd arall yn real iddo, ac edrychai ymlaen am gyfarfod yno â'i fab, ac am ynni newydd i geisio gwirionedd, ac i berffeithio ei gymeriad. Tybiaf mai'r wedd ar yr Efengyl a apeliai fwyaf ato oedd yr addewid am fywyd tragwyddol-bywyd digon llawn a gwerthfawr i bara byth. Y ddau air a ddaw inni wrth feddwl amdano ydyw'r geiriau, sant ac athronydd, á'r ddau air yn eu perthynas â'i gilydd-sant yn ceisio gwelediad eang a chlir yr athronydd, ac athronydd a ymroddai i sylweddoli ei weledigaeth a'i ffydd yn ei fywyd beunyddiol. D. PHILLIPS. Cynhaliaeth Os byddaf ddiofal, rhodded Duw Ei Ysbryd Ef i mi yn llyw; Os byddaf egwan deued Ef A'i Allu i ateb f'eiddil lef. Os byddaf falch, boed ger fy mron Ddrych o ogoniant daear gron­ Mor fyr, mor gau; a boed im droi At odidowgrwydd na all ffoi. Os byddaf drist, cyfoded Ef Fy mhen â'i lân ddeheulaw gref; A phan gyffyrddo Ef fy mron Ym mhob rhyw dristyd byddaf lon. .W.P.P.D,