Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teyrnged Disgybl I'R ychydig y rhoddir deall cyfrinach byw. Hanes y rhelyw ohonom yw dygnu a rhygnu ymlaen gan fwyta ond heb ein diwallu, gan yfed ond heb ein disychedu; megis ceiliogod rhedyn yn anfoddog ac aflonydd. Weithiau, fodd bynnag, daw i'n plith enaid prin, dethol, a'r pryd hwnnw byddwn yn ymfalchio yn ein tras ac yn ymffrostio yn ein hetifeddiaeth. Hyn a geidw ein ffydd yn ein cyd-ddynion ac a bair inni ganfod bod elfen o anfarwoldeb hyd yn oed mewn clai a phridd. Yr oedd yr Athro D. James Jones yn un o'r eneidiau prin hynny. Fel disgybl y deuthum i gyffyrddiad ag ef i ddechrau, ac o dan ei gyfarwyddyd sicr ef yr arweiniwyd fi, a llawer un arall, i faes athroniaeth am y tro cyntaf erioed. Fel y gwyr y cyfarwydd nid maes hawdd i bori ynddo mo hwnnw, yn enwedig i newyddian, ond meddai'r Athro amynedd di-ben-draw a dawn ddiarhebol i ysbrydoli pob myfyriwr a chanddo ronyn o ddiddordeb yn y pwnc, i loywi ei arfau a bwrw iddi o ddifri i geisio deall a datrys, yn ôl ei allu, y problemau a'i wynebai. Fel rheol, byddai'r maes yn ddieithr hollol, ond yr oedd yr Athro'n feistr ar ei waith. Paratöai ei ddarlithiau yn drylwyr, a thraddodai hwynt yn ofalus a chlir. Ymhyfrydai yn ei bwnc, yn enwedig metaffiseg, a rhoddai ei holl ynni yn y gwaith o yrru'r hoelen i'w lle a'i churo adre'n sownd. Fe gofia ei hen fyfyrwyr, mae'n siwr, am y pwyslais a roddai ar ambell air, pwyslais a barai i ddyn neidio'n ei sêt weithiau a sylweddoli'n sydyn ei fod mewn darlith yn hytrach na rhywle arall. Ar brydiau felly byddai cysgod gwên chwareus ar wyneb yr Athro, a bûm yn dyfalu droeon tybed nad oedd pwrpas tra ymarferol i ambell bwyslais o'i eiddo. Sut bynnag am hynny, bu'n foddion effeithiol lawer tro i ddwyn yr esgeulus at ei goed. Wrth ddarlithio byddai'n arfer ganddo gerdded yn ôl a blaen ar draws yr ystafell gyda'i ddwylo ymhleth tu cefn o dan ei wn du; weithiau'n mesur y llawr â'i olygon, dro arall yn edrych yn syth o'i flaen, yna'n awr ac eilwaith yn sefyll ac wynebu'r dosbarth, a'i lygaid craff, treiddgar, yn edrych arnom bob un yn ei dro. Dyna'r adeg y byddai'n debyg o wneud rhyw bwynt pwysicach