Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lycidas (JOHN MlLTON) Eto un waith, lawryfon; eto un waith, O eiddew bythol wyrdd, a myrtwydd lu, Deuaf i dynnu eich garw anaeddfed ffrwyth, A dryllio eich irddail mwyth O flaen yr hydref â'm chwyrn fysedd hy. 1 Rhyw athrist raid a chwerw achlysur sy' Yn peri im aflonyddu arnoch dro: Cans Lycidas,—nad oes ei fath yn fyw,- Cyn cyrraedd anterth einioes-marw a fu. Amdano pwy na chanai ? 'R oedd efô Ei hun yn eiliwr odlau uchel ryw. Ni chaiff ar ddyfrllyd elor nofio'n dru­ Ymgreinio a threiglo dan y deifiol wynt- Heb ged o ryw felodaidd ddeigryn cu. Dechreuwch, felly, O chwiorydd gwiw Y ffynnon sant a dardd dan orsedd Iau: Dechreuwch, ie yn uchel, ei goffâu. Ymaith ag ofer nag neu esgus cloff; Rhyw ddydd rhoed Awen hoff I minnau weddus eiriau ar fy medd; Ac arched brydferth hedd, 'R un modd, wrth fyned heibio, i'm hamdo ddu. Cans ar yr unrhyw fryn y magwyd ni, A'r unrhyw braidd, ger ffynnon, llwyn, a lli, A borthid gennym; aem ein dau'r un pryd Fr meysydd, cyn i drem y Wawrddydd dlos Oleuo'r lawntiau uchel; ac ynghyd Y clywem rwn y chwilen gyda'r nos: Pasgem ein praidd â gwlith y nosau maith, Nes gwyro o seren glir dechreunos, lawer gwaith, Ei rhod orllewin at ddisgynfa'r ne'.