Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y Mwyaf"—Cymro a Sais Pechod parod i amgylchu pawb ohonom, yn siaradwyr ac ysgrif- enwyr, yw esgeuluso diffinio ein termau ar y cychwyn. Rhaid gwneuthur yn glir, i ni ein hunain i ddechrau, ac yna i'n darllen- wyr neu'n gwrandawyr, beth yn hollol a olygwn wrth ddefnyddio'r gair. Beius yn aml ydym, yn ein ymdiddan ac yn ein traethiadau cyhoeddus, o aneglurder ac amwysedd. Mewn rhai cylchoedd, gwleidyddiaeth er enghraifft, y mae hyn ar brydiau yn gymorth, o bosibl! Ar y cyfan, fodd bynnag, dyletswydd yw meddwl a thraethu yn glir a diamwys. Taro'r post i'r pared glywed," yn ôl yr hen air Cymraeg. Awgrymu. Gan adael cyfle i feddwl y gwrandawr neu'r darllen ydd lenwi llinellau'r brâs-ddarlun neu gario'r ystyr ymhellach, gan ddeall mwy nag a ddywedir yn llythrennol. Wrth ddefnyddio geiriau pwysig, fodd bynnag, dylid arfer gofal arbennig. Cofir am air yr Arglwydd wrth un a dueddai i fod yn llac Paham y gelwi fi yn dda; nid oes neb yn dda ond un, sef Duw." Rhy barod ym i gymhwyso'r gair "mawr" yn ddifeddwl; a galw bardd da at iws gwlad yn llenor mawr," neu bregethwr dawnus a phoblogaidd yn broffwyd mawr." Rhaid goIyn: Beth a wna ddyn yn fawr?" Ac ar ôl ystyriaeth ofalus iawn, ar ôl pwyso 011 ynghyd, y gellir yn briodol gyhoeddi un y mwyaf." Plant oes o swn a chyffro ydym heddiw. Camarweinir ni bawb yn ami gan yr olwg allanol ar bobl a phethau; bwrir ni i ddryswch gan gynddeiriog donnau dadwrdd y byd. Tueddir hi i goelio mai'r hwn a lefa ar uchaf gloch sydd â mwyaf o wirionedd i'w draethu; megis pe byddai raid i'r Gwir wrth utgorn. Anghofiasom y wers a ddysgwyd gynt i'r proffwyd, hid yn y daran y mae'r Gwir, ond yn y llef fain. Gellid dadlau yn hir ar ystyr y mwyaf ond beth am hwn i weithio arno yn awr,—yr hwn, yn ei bersonoliaeth a'i waith, yn ei fywyd ac wedi marw," a edy'r ôl dyfnaf a mwyaf parhaol ar feddwI ä bywyd y byd? Teulu Abel, y sydd, o oes i oes, yn llèfaru éto." Onid cerrig a fwrir i Iyn dwfr yw geiriau a gweith- redoedd pob un ohonom; ein meddyliau hefyd a chymhellion cudd