Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Meddwl PAN oeddwn un gyda'r nos yn eistedd wrth y tân yn gwrando ar y radip, ac yn rhyfeddu at burdeb y miwsig, ac eglurder y lleisiau, a oedd mor naturiol â phe buasent yn yr ystafell gyda mi, syrthiais i hepian, a bûm yn synfyfyrio am ryw awr neu ddwy, mi dybiaf. Fe aeth llawer o bethau drwy fy meddwl yn y cyfnod hwnnw a edrychai mor fyr â phetai ond ychydig eiliadau. Ond, i gychwyn, mor rhyfedd y gweithreda'r diwifr! Gymaint o drawsnewidiadau a ddigwydd rhwng yr ànfonýdd a'r derbyn- nydd, ac eto mor ddiwyrgam yw'r gerddoriaeth swynol a'r siarad clir! I ddechrau fe siaredir neu fe genir i'r microffon, a thraws- newidir y sŵn i ffrwd trydanol yn rhedeg yn gyflym ôl a blaen yn y gwifrau ac yn yr erial. Cynhyrcha'r symudiadau hyn gyffro- adau yn y nwyfre ar ffurf tonnau trawsredol yn trafaelio drwy'r nwyfre i bob cyfeiriad o'u tarddell. tonnau hyn o'r un natur â thonnau goleuni, a thrafaeliant gyda'r un cyflymder, tua dau can mil o filltiroedd bob eiliad. Os syrthiant ar erial arall bellter 6 ffordd o'u tarddell, ac os bydd honno mewn cylch o wifrau sydd mewn tiwn â chylch y gyntaf, yna gall y tonnau a syrth arni gael eu trawsnewid i ffrydiau trydanol, a symud ôl a blaen yn yr ail gylch gyda'r un mynychder ag ar.y cychwyn. Onid yw'r derbynnydd mewn tiwn â'r anfonydd, nid yw'n bosibl clywed dim. I esbonio hyn byddai raid ystyried manylion nad ydym yn bwriadu eu trafod yma. Ni raid i ni yma ond cadw mewn cof fod tonnau swn yn cael eu trawsnewid i donnau o natur wahanol, ac ynà' ar ôl trafaelio vmhell o'r tarddiad yn cael eu troi yno'n ôl i donnau sŵn o'r un natur yn union â'r tohhau sŵn a gynhyrchwyd ar y cychwyn. Cvn y gall hyn fod mae'n rhaid i'r derbynnydd fod mewn tiwn â'r anfonydd. Dinistrir ynni y'tonnau sŵn yn fuan iawn: fe'i troir i ynni gwrês. Tonnau hydredol ydynt.ac y. mae'n rhaid cael awyr i'w trosglwyddo. Ni allent felly dreiddio i'r gwagle y tu hwnt i derfynau'r wybren. Llenwir y gwagle â llawer math o belydria