Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Huw Derfel a'i Dad II. [Dyma chwaneg o ddyfyniadau o lawysgrif Huw Derfel yn Ebrill 4, 1845, fel parhad o rifyn Hydref, 1946 o'r TRAETHODYDD. Mae'r cynnwys yn fwy personol na'r tro o'r blaen, ac o lai diddordeb efallai i hanesydd bywyd gwledig ganrif yn ôl; er hynny fel cofnod o adfyd gwerinwr syml, mi gredaf fod gwerth yn yr hanes gwir hwn o ofid chwerw. Nid yw heb ei huodledd effeithiol ei hun.] ODDEUTU yr amser hwn dechreuodd gwyntoedd a thymhestloedd profedigaeth chwythu ar dy fy nhad erbyn ei bedair congl. Ganwyd y seithfed blentyn o honom, ac ar enedigaeth hwn collodd fy mam ei synhwyrau, ac os oeddym yn dylodion 'o'r blaen yr oeddym yn mwynhau llonyddwch a thangnefedd o'r fath ag a fedd ambell deulu dedwydd yn y byd hwn; ond nid yn dlodion yn unig yr aethom y Pryd hwn ond ymddifadwyd ni o bob cysur a allai mam ei roddi a'i weini ini, a daeth anghysur tlodi a digalondid i mewn fel afon a dechreuodd grafu a golchi ymaith o'r bron bob cysur daearol a feddem. Ni wyr neb ond y sawl a brofasant, pa effaith wylofus a ganlyn pan y bo y Fam ffynnhonell fawr y cysur teuluaidd wedi ei hymddifadu o'r ganwyll werthfawrocaf a dderbyniodd dyn o law Awdwr ei fodolaeth. Bellach o hynny allan nid oedd un tamaid o fwyd yn cael ei wneuthur nac ei roddi i ni gydag un math ar drefn ond ein trefn ydoedd annrhefn ac afreoleiddiwch. Wedi i mam gyfodi o'i gwely, aeth yn eithaf anhawdd ei thrin, ni ofalai am danom mwy na'r estrys am ei rhai bach, ac nid gadael yn unig ond lluchiai a chwalai a'i dwylaw ei hun bobpeth yn bendramwnwgl. Nid oedd un rheswm o eiddo fy nhad er mor llariaidd a fyddai yn tycio dim at ei llêsau. Torodd fy anwyl Dad ei galon, aeth ei iechyd i waethu yn fawr, nes oedd o'r bron yn methu dylyn ei waith yn y felin. Yr oeddym erbyn [hyn] 011 fel teulu yn naw mewn rhifedi, ac yr oedd yn ofynol i ni oedd yn blant ar ein prifiant gael llawer at ein cynhaliaeth ac hefyd o ymgeledd i ni. Ond