Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau THE POEM OF JOB. A literary study with a new translation. W. B. Stevenson, Glasgow. The Schweich Lectures of the British Academy, 1943. Oxford, 1947. Deugain mlynedd yn ôl ymadawodd yr Athro W. B. Stevenson â Choleç y Bala am Glasgow, wedi gwasanaethu yno fel Athro Hebraeg am naw mlynedd. Erys ei enw yn adnabyddus ym mhlith gweinidogion y Cyfundeb, a gwn y pery ei ddiddordeb ef yng Nghymru yn fyw o hyd. Caf sgwrs ag ef yn achlysurol, a sôn y bydd bob amser am Fala y dyddiau gynt. Erys yn aelod ffyddlon o'r Cambrian Archaeological Society, ac ysgrifenna o dro i dro ar bynciau Cymreig. Bu i Gymru hithau ddangos ei gwerthfawrogiad ohono drwy ei urddo â gradd D.D. anrhydeddus. Yn ystod hanner canrif gwnaeth yr ysgolhaig hwn, canys hynny yw yn anad unpeth, gyfraniad sylweddol i astudiaeth yr Hen Destament, yn enwedig drwy drafod materion iaith a gramadeg Hebraeg. Ychydig a gyhoeddodd o natur boblogaidd, ac nid yw'r llyfr dan sylw yn eithriad. Rhybuddiwn ar ddechrau'r adolygiad nad yw'n llyfr i'w argymell ond i'r sawl a wyr yn weddol am lyfrau eraill safonol ar Job, onid e, geill ei arwain i brofedigaeth. Ni ddibynna Stevenson lawer ar y llyfrau eraill hyn, ond y mae eu hangen rhag ofn y bydd i symledd arwynebol y llyfr gamarwain y darllenydd i feddwl fod problemau wedi eu trafod yma yn derfynol. Bydd yn rhaid i ysgolheigion ei fyfyrio'n ddifrifol, ond bydd yn syn gennyf oni ddaw gwrthwynebiad o lawer o gyfeiriadau. Ceir yma 20 tudalen o gyfieithiad newydd gan yr awdur o gân Job, a rhyw 16 arall o nodiadau ar y cyfieithiad, a thua 8o yn trafod rhai agweddau ar y gân, megis ei datblygiad, natur y broblem ynddi, a rhai nodweddion arddull. Y mae pob un o'r trafodaethau yn hollol newydd, ac fel rheol yn chwyldroadol. Ni wnaf yma onid cynnig rhai nodiadau ar gynnwys y llyfr. Sylwyd mai Cân Job yw teitl y gyfrol, nid Llyfr Job. Ni fyn S. fod a wnelo'r hanes yn y prològ (1.1. — 3.1.) a'r epilog (42'. 7 — 17.) ddim â'r gân fel y cyfryw. Os gwyddai'r awdur am yr hanes o gwbl-ac nid oes angen gwadu hynny—nid yw ei ddyled iddo ond bach iawn (td. 85). Sylwer nad oes yn y gân ddim trafod ar Satan, nid yr un yw colledion Job yn yr hanes ag ynddi hi, ac, yn bendifaddau, nid amynedd Job yw pwnc y gân. Gwir fod ambell gyfeiriad yn y gân at afiechyd Job, ond bu S. yn manwl ystyried pob un ohonynt, a chaiff eu bod i'w hesbonio mewn ffordd arall (td. 34 — 6). Yn ôl y dadansoddiad, yr hyn a gawn yng nghân Job yw protest dyn yn erbyn dull Duw o'i drin. Fe ymosodwyd arno gan < £ annuwiolion (felly y cyfieithir yn y Gymraeg, "wicked" yn y Saesneg), ond wedi chwilota manwl i ystyr y gair yn llyfr Job, dengys S. y golyga ym mhob man enw ar blaid neu ddosbarth o ddynion. Yr un gair sydd yn yr adnod gyfarwydd 3. 17, a