Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymostwng i Dduw. Yn y pen draw, dyna hefyd a wnaeth Job, ond wedi strancio cryn lawer i ddechrau. Derbyn Stevenson y rhan fwyaf o gasgliadau beirniadaeth lenyddol y llyfr, e.e., gwad berthynas y gân ag anerchiad Elihu (pen. 32 — 7) pennod "Doethineb" (28); cân y "behemôth" (40. 15—24); y lefiathan (41); a flu eraill. Gyda golwg ar y cyfieithiad, y mae'n sicr y bydd cyfeirio mynych ato. Cymerth y cyfieithydd ddiddordeb mawr mewn llunio brawddegau bachog ond cywir, ac wrth drosi geiriau Job dengys huawdledd a choegni beiddgar. Ond gwelwn yn y cyfieithiad mai plentyn ei oes yw Stevenson. Nid yw'n ymatal rhag newid ei destun--er nid heb roddi ei resymau, ac yn am1 dibynna ar yr hen gyfieithiadau. Fe gynnwys, e.e., y gwelliant cywir, ond annifyr rai, mai yr hyn a ddywedodd Job ýn 12. 12, yw nad yw doethineb mewn henuriaid, na deall mewn hir-ddyddiau. Ni allwn lai na sylwi fod y cyfieith- iadau Cymraeg a Saesneg wedi newid a lliniaru llawer ar yr Hebraeg, er osgoi rhai cyfeiriadau beiddgar gan Job, ac wrth gwrs, fe'u cywirir yma. Ar y llaw arall, er mwyn cysondeb â'i ddehongliad, fe gawn S. hefyd yn newid 'yr Hebraeg, e.e., 16. 19; 19. 25. Dyna berygl mabwysiadu safbwynt rhy bendant, a gorfodi'r testun i gydfynd. Efallai mai cywir yw, ac yn sicr, nid yw yn gyfreithlon ei newid. Hwn yw'r condemniad mwyaf llym y gellir ei gyhoeddi ar Feirniadaeth Feiblaidd, ac ysywaeth, nid yw'r Athro hyglod yn ddigamwedd. Ond y mae'r gyfrol yn werthfawr, ac yn gyfraniad pwysig iawn. Teimlaf fod llawer i'w ddweud o blaid ei dehongliad. Dengys gryn debygrwydd rhwng hanes a helyntion Jeremia a Job; yr oedd y ddau yn casáu Duw nes dod i gydnabod ei awdurdod, ac yna caent eu hunain yn ei garu. Nid oes raid ofni beiddgarwch yng ngwydd ein Creawdwr, y mae yn ein deall yn well nag y meddyliwn. Ond fe rydd y mynegiant ohono ambell ysgytiad i ni. Nid fy lle i yw canmol gwaith ysgolhaig o safon yr Athro Stevenson, byddai hynny'n draha; ond tystiaf i mi gael budd mawr iawn o'i ddarllen, a gwn y bydd llawer yn datgan yr un peth. Bangŵr. BLEDDYN J. ROBERTS. MORALS AND THE NEW THEOLOGY. Hywel D. Lewis, M.A., B.Litt. (Gollam). 7/6. Hyfrydwch yw cael galw sylw darllenwyr Y TRAETHODYDD at y traethawd pwysig hwn ar foeseg. Y mae'r awdur eisoes yn hysbys fel un o'n hysgolheig- ion mwyaf cyson ei gyfran a'i gynnyrch yn y cylchgronau athronyddol a diwinyddol yng Nghymru ac yn Lloegr. Â theitl mor hynod, efallai nad yw'n syndod fyned o lawer o'r llyfr yn ddim amgen na thraethawd ar foesoldeb Diwinyddiaeth Ddiweddar! Er yr ymddengys mai mewn moeseg y mae diddordeb pennaf yr awdur, eto y mae'n llawn cydymdeimlad â chrefydd; fe ysgrifenna yn gwbl grefyddol ei osgo, a dengys ei ysbryd 61 magwraeth ysbrydol a Christionogol. Ei bryder oherwydd difaterwch crefyddol y dyddiau hyn, gellid meddwl, a'i hysgogodd i roddi ystyriaeth i'w bwnc ac i