Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATBLYGIAD A DATGUDDIAD Y DDARLITH DAVIES AM 1942 Gan y Parch. G. WTNNE GRIFFITH, B.A., B.D. Pris, 10/6 Datblygiad oedd gair mawr meddwl seciwlar yn banner olaf y ganrif ddiwethaf a daeth yn fwy-fwy i fod yn air cyswyn Diwinyddiaeth y cyfnod. Yn Rhan I. y llyfr hwn ceir trafod- aeth hanesyddol ar y Syniad o Ddatblygiad a'i ddylanwad ar Ddiwinyddiaeth. Yn Rhan II. ymdrinir â syniadau Karl Barth a'i Ysgol. Ymgyrhaeddiad dyn at Dduw oedd syniad llywodraethol Diwinyddiaeth Datblygiad. Ond ni fyn y Barthiaid roddi lle na swcwr o gwbl i'r syniad hwn. Ymostyngiad Duw at ddyn ym mhenarglwyddiaeth ei ras ydyw Alffa ac Omega eu Diwin- yddiaeth hwy. Cydnebydd yr awdur werth a phwysigrwydd cyfraniad y Barthiaid, eto ni fyn ei restru ei hun yn eu phth. Oblegid cred ef fod y gwirionedd cyflawn yn cynnwys y ddau syniad o Ddatblygiad a Datguddiad. Yn Rhan III. ceisir codi rhai arwyddion ffordd tuag at gyfosodiad newydd a fyddo'n cynnwys yr hyn sydd o werth yn Niwinyddiaeth Datblygiad ac yn safbwynt Ysgol Barth, a oheisir dangos fel y mae meddwl y cyfnod yn ein cyfeirijo tuag at y cyfosodiad hwn. Honnir mai yn yr Arglwydd Iesu Grist y ceir yr agoriad i ddeall ystyr cwrsweithrediad Datblygiad a Datguddiad. DETHOLIAD 0 EMYNAU A THONAU i ddatgan ein Mawl i Dduw am Heddwch, a'n Croeso i'n Bechgyn a'n Merched yn ôl o'r Lluoedd. Argraffiad Solffa. 5c. Eto, Argraffiad Hen Nodiant a naw o'r Tonau. 6ch. CLYCHAU'R GORLAN. Casgliad o Emynau a Thonau at wasanaeth plant yr Eglwysi a Mudiadau'r Ifanc. (Nant- lais.) 80. Cludiad, lc. LLAWLYFR URDD Y BOBL IEUAINC. Argraffiad oewydd. 3c. A LAND OF MANY TRIBES. The Story of our Mission Work on the North Cachar Hills. Rev. John Hughet Morris. 4d. JOHN PUGH. Apostol y Symudiad Ymosodol. Llyfryn Coffa. (Nantlais.) 3c. JOHN PUGH. Centenary Celebration (1846—1946). AD Appreciation. Rev. D. Ward Williams. 2d. OAEBNABFON: LLTFBFA'B METHODSITIAID CALFINAIDD.