Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Pa Ragoriaeth ? "DVMA fy ngorchymyn i, ar i chwi garu eich gilydd megis y cerais i chwi." Byddai'n help i ddeall addasrwydd Cristionog- aeth pe caniateid fod Crist wrth orchymyn i ni garu ein gilydd yn apelio at dueddfryd sy'n gynhenid ynom. Onid ydyw, mewn rhyw ystyr, yn naturiol i ni garu'n gilydd, nid apelia'r gorchym- yn hwn ond at ryw un darn ohonom, fe petai, ac ni ddaw i ni gyfanrwydd ac iechyd drwy ufuddhau iddo. Myn rhai mai croes i natur .yw'r gorchymyn, ac mai drwy ewyllysio yn unig y medrwn ufuddhau. Ni eill dim fod yn fwy camarweiniol bellach na rhannu dyn fel hyn, yn reddfau naturiol llygredig, ar y naill law, ac yn ewyllys neu benderfyniad i ufuddhau i orchym- yn Duw, ar y llaw arall. Gwir fod pechod wedi ystumio a chlaf- ychu ein tuedd naturiol i dynnu at ein gilydd, ac wedi dwyn pob math o lygriadau i mewn i'n perthynas â'n gilydd. Cyfaddefaf hynny, bid siwr. Ond credaf, yr un pryd, fod ym mhob dyn, oddi tan haenau ei raib a'i drythyllwch a'i greulonderau, haen o gymrodoriaeth naturiol tuag at ei gyd-ddyn, ac mai at yr haen hon yr apelia Cristionogaeth wrth wneud cariad yn bennaf rheol buchedd. Gellir gosod y gwirionedd hwn mewn ffordd arall drwy ddweud fod Iesu Grist bob amser, nid am ein cael i ewyllysio caru ein gilydd yn erbyn tueddiadau cryfion i gasau ac i gam- arfer y naill y llall, ond am ein cael i deimlo yn iawn tuagat ein gilydd; nid am ein cael i wneud y math iawn o weithredoedd ni waeth beth a fo'n teimladau, er enghraifft, i ymddwyn tuagat ein cyd-ddyn fel pe baem yn ei garu a ninnau'n gwbl ddibris ohono, ond ein cael, o flaen popeth arall, i deimlo'r math iawn o deimladau, gan wybod y bydd i ni yn naturiol wneuthur y gweithredoedd. Traddodwyd yn Sasiwn Caernarfon, Medi, 1950.