Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwell a'i sistemau gwaeth, yn gorwedd dan farn y Cariad a roddodd ei gwbl heb obeithio dim drachefn. A chan mai dyma'r broblem, nid oes ddatrys arni ond drwy ddatguddio yn y Cariad ei hun adnoddau o drugaredd y tu hwnt i'w farnedigaethau. A dyma beth a ddatguddiwyd yn y groes. Datguddiodd y groes unwaith ac am byth ar lwyfan hanes safon cariad difrycheulyd dda sy'n dadlennu mesur o lygredd yn holl gymhellion dynion. Ond y mae'r groes a ddatguddiodd y safon yn amlygiad hefyd o dosturí tuag at blant dynion, o fadd- euant iddynt am eu pechod, ac o fawr hiraeth Duw am fedru eu swcro a'u hiachau. Cyfaddefais fod y cariad Cristionogol, ar un olwg, ymhell uwchlaw ein cyrraedd ni. Ni fedrwn oddi wrtho. Ond paradocs Cristionogaeth yw fod y groes, a ddadlennodd ddyfnder ein pechod, yn bwrw atom sialens ei chariad difrycheulyd fel safon buchedd yn y byd hwn. Mae'r groes yn parhau i ddywedyd wrthym nad oes derfyn ar bosibilrwydd aberthu buddiannau'r hunan er mwyn arall. Ei swyddogaeth yw dal ein gorchestion moesol yn wastad megis dan dynfa'r safon hon. Eithr nid safon a her yn unig sydd yn y groes. Y mae ynddi ddeinamig hefyd. Tydi yw'r ffordd a mwy na'r ffordd i mi, Tydi yw 'ngrym." Y mae Duw'r groes yn farnwr ac yn achub- ydd yr un pryd. Ac y mae ganddo'r hawl i farnu, am ei fod yn achubydd. Beth a rydd hawl i Dduw wyntyllio dy gymhell-. ion di'n ddidrugaredd a nithio allan ûs yr hunanoldeb sy'n wastad yn gymysg â'r grawn ? Dim ond y ffaith i'w gariad tuag atat ddal prawf ei safon absoliwt ei hun ac iddo, yng Nghrist Iesu, dywallt ei enaid i farwolaeth drosot. Y cariad a'th garodd di felly sy'n sefyll mewn barn ar dy bechod. Amser cannu, diwrnod nithio, Eto'n dawel heb un braw, Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfan Sydd â'r wyntyll yn ei law! J. R. JONES.