Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ô1. Ac eto i'r Efengyl ddod y grym anferth a fu yng Ngwar- eiddiad y Gorllewin rhaid yn gyntaf oll ei thrawsblannu i dir Groeg. Yr oedd y gwaith o Roegeiddio'r Efengyl yn anochel- adwy, ac yn wir dechreuasid ef eisoes yn y Testament Newydd. Cyrhaeddodd hyd yn oed haenau cynharaf y traddodiad Crist- ionogol hyd atom ni, nid yn yr iaith y mynegwyd ef ynddo'n wreiddioJ, ond mewn trosiad Groeg. Am y tameidiau Aramaeg a erys yn y Testament Newydd — Marantha, Golgotha, Taiitha Cwmi, Ephphatha ac ychydig eraill, prin y mae'n werth sôn amdanynt. Pan ddeuwn i drafod drychfeddyliau ac egwyddorion hanfod- ol y mae cyfieithiad yn fater o bwys nid bychan, oblegid y mae gwahaniaethau iaith yn fynegiant o wahaniaethau gwirioneddol mewn golygiad. Nid oes yma y cyfwerth sefydlog a geid hyd yn ddiweddar rhwng y bunt, y ddoler a'r ffranc, fel y gellid cyf- newid un am y llall heb golli nac ennill o'r ddau tu. Pan fo a wnelom â materion gwir fywyd nid yw'r trosiad yn bosibl heb i ryw newid ddigwydd. Gall y rhai sydd â dawn ganddynt i werthfawrogi ieithoedd weld effaith cyfieithu ar y Beibl. Y mae'r Beibl yn odidog ragorol yn Saesneg yr ail ganrif ar bymtheg; yn well fyth efallai yn Almaeneg Martin Luther; yn odidog hefyd ond mewn ffordd wahanol yn Lladin Jerome. Nid cystal o lawer yw yn Ffrangeg neu Eidaleg, plant yr hen Ladin. Prun ai chwanegu at ei ystyr a'i dlysni, ai ynteu dynnu oddi wrthynt a wna'r Gymraeg­-gẁyr llawer ohonoch chwi mewn modd nad wn i ddim amdano. Yn awr fel proses ieithyddol pur cymerasai cyfieithu le eisoes pan ysgrifennwyd y Testament Newydd. Ysgrifennodd Paul, ac yntau'n Hebrewr o'r Hebreaid, mewn Groeg. Ac ni ddaeth geiriau'r Arglwydd ei hun i lawr atom ond mewn gwisg Roeg. Nid oedd cyfieithu iaith namyn un agwedd ar gwrsweithrediad llawer ehangach. Os oedd yr Efengyl i wneud argraff ar war- eiddiad Ewropeaidd a chael ei derbyn ganddo, gorfodid hi i'w mynegi ei hun yn nhermau meddwl Groeg. Yr oedd y gwaith hwn nad oedd ond wedi cychwyn, megis, yng nghyfnod y Testa- ment Newydd i'w gario ymlaen trwy bregethu'r Efengyl dros yr Ymerodraeth Rufeinig yri y canrifoedd dilynol. Yn y math hwn o fyd meddwl y tyfodd yr agwedd at y Datguddiad Cristionogol