Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd (pan oedd dynion wedi darganfod o'r newydd y byd hwn a'i degwch) rannu cymhlethdod bywyd yn fwyfwy pendant i ddau gylch, y naturiol a'r goruwchnaturiol. Daw'r gwahaniad i'r golwg mewn dynion yma ac acw: saif llawenydd mawr yn y byd hwn ochr yn ochr ag ymchwydd ysbryd i farweiddio'r corff; ceir meddwl cynhesach, llonnach a mwy agored i'r byd hwn yn gytûn â duwioldeb dwys, personol ac ysbrydol. Dar- ganfu'r Cristion cynnar Grist yn y dirgelion, uwchlaw pob dim yn offeryn diolch y Swper Sanctaidd, a chymdeithas y Corff Cyf- riniol, yr Eglwys. Daethai'r Cristion yn hwnnw yn alter Christus Cais dyn y Canol Oesoedd Grist ym mywyd hanes- yddol y Gwaredwr yn ôl yr Efengylau, ac yn ei ddysgeidiaeth foesol; iddo ef daw Crist yn esiampl foesol." (Herwegen, Kirche und Seele, td. 29 f.) Ceisiais yn y ddarlith hon osod ger eich bron rai o'r ffyrdd, fel yr ymddengys i mi, y mae Diwinyddiaeth y Tadau yn bwnc o bwys i fywyd crefyddol a meddwl yr ugeinfed ganrif. Ni all, wrth gwrs, fod unrhyw gwestiwn o droi'n ôl i'r oes Batristaidd. Pobl yr ugeinfed ganrif nid yr ail, neu'r bedwaredd, neu'r seith- fed, ydym ni, ac ni allwn edrych yn ôl at y Tadau, ond fel rhai y dylanwadwyd yn ddwfn ar eu gweledigaeth gan ddiwinydd- iaeth oesau diweddarach, prun bynnag ai cyfnod y Frenhines Victoria, neu'r Aufklarung, neu'r Diwygiad Protestannaidd neu'r Canol Oesoedd. Er hynny i gyd, gall hyd yn oed gorffen- nol yr ydym yn ei weled mewn golau na pherthyn iddo ei hun ddysgu llawer i ni, yn enwedig fel yn yr achos hwn ac yntau'n digwydd bod yn orffennol yr ydym ni bawb oll yn etifeddion uniongyrchol iddo. F. L. Cross.* Cyfieithiad yr Is-Brifathro D. Morris Jones, M.A., B.D., M.C., o ddarlith agoriadol yn Athrofa Ddiwinyddol, Aberystwyth, Hydref 12, 1949, gan y Parch. Dr. F. I Cross, Canon Eglwys Coleg Crist ac Athro Diwinyddiaeth, Rhydychen.