Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu denu rhai ieuenctid i'r dosbarthiadau canu yn foddion i roddi traed llawer ar lwybr sobrwydd yn gynnar ar eu bywyd. Colled i apêl a grym hanes y dyfodol a fai i lafur di-orffwys hen gymwynaswyr ardaloedd y chwareli fyned ar ddifancoll. Ni ddylai eu gwasanaeth trwyadl fod yn ddieithr i'r cenedlaethau â ddêl. Os na chwelir y llwch oddi ar eu hanes yn ddiymdroi â eu hesiamplau godidog ar goll. Yn anffodus, nid ydynt ond enwau moel, hyd yn oed, i lawer o blant y cymoedd y dyddiau hyn. Torf oeddynt a afaelasant yn eu dyletswyddau gyda gwydn- wch, ac oherwydd hynny coronwyd eu hymdrechion â llwydd- iant. Diddorol heddiw ydyw rhodio ar hyd y llwybrau a gerdd- wyd ganddynt, syllu ar yr allorau a godwyd ganddynt, a myfyr- io uwchben eu buddugoliaethau a enillwyd wrth ddringo clogwyni o anawsterau. Wrth godi cwr bychan o'r llen ar eu cyfnod ceir cipolwg ar ran o'u hymdrechion Yn 1861 dechreuodd Eleazer Roberts gynhyrfu'r dwfr yng Nghymru gyda chyfundrefn y Solffa, drwy alw sylw ati yn Y Ce-rddor Cymreig. Ceid arwyddion diamwys ei fod ef wedi llyncu'r gyfundrefn fel un a roddai fywyd o'r newydd mewn cerddoriaeth, ac fe drawodd yr hoelen ar ei phen. John Curwen a'i gyfundrefn oedd flaenaf ar ei dafod a'i feddwl, a llwyddodd i wneud gwasanaeth difesur. Bu Eleazer Roberts, yn ychwanegol at ysgrifennu i'r Cerddor Cymreig i egluro'r gyfundrefn, yn darlithio ar hyd a lled y wlad, a chyfieithodd rai o lyfrau Curwen i'r Gymraeg. Ymledodd y clefyd gyda chyf- lymder anarferol drwy Gymru. Sefydlwyd dosbarthiadau mewn gwahanol gylchoedd. a chyn nemor o amser yr oedd Cymru yn lled gyffredinol o dan y gafod. Yr oedd Lloegr eisoes wedi cofleidio'r gyfundrefn newydd, ac oddeutu wyth gant o athraw- on yn llawn prysurdeb gyda'r plant mewn Ysgolion Sul ac Ysgolion Dydd. Ffrwyth y dosbarthiadau a ffurfiwyd bron ym mhob ardal yng Nghymru oedd magu töau o ddarllenwyr Solffa ar yr olwg gyntaf; creu dadansoddwyr cerddorol a chyfansodd- wyr deheuig, codi athrawon, a magu arweinwyr corau. Ffaith ddiddorol i sefyll uwch ei phen ydyw fod pedwar a thrigain yn ymgeisio ar gyfansoddi tôn mewn cystadleuaeth yn y Waunfawr, ger Caernarfon, yn 1865.