Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Telynegwyr yr Hen Oes. O'R braidd y mae angen atgoffa neb o faint a sylwedd y barddoni telyncgol yn ein llenyddiaeth, a'r rhan amlwg iawn a chwaraeir ynddi gan y delyneg o bob math; eithr ofnaf mai plwyfol yn unig yw ein diddordebau, ag eithrio cyfieithiadau Syr John Morris- Jones o weithiau'r Almaenwr Heinrich Heine ac eraill. Oher- wydd y gwahaniaethau di-rif rhyngddynt; annichon fyddai i ni ymgeisio at gymhariaeth rhwng y telynegion Cymreig a'r telyn- egion Groeg. Fel ym mhob cynnyrch telynegol modern, nid oes bron ddim na fedr ymgynnig yn destun telyneg i fardd-y misoedd i Eifion Wyn, y rhosyn i I. D. Hooson, gwynt y gorllewin i Shelley, trumau'r Alban i Burns, a'r durtur ym Mhorthcawl i Wil Ifan. Ond, yn anffodus, nid canu dethol mohono; y mae'r cynnyrch, yn arbennig felly yn Gymraeg, wedi mynd yn bendramwnwgl drifflith-drafflith. Ymhlith y Groegiaid nid oedd cwmpas hanner mor eang i'r delyneg. Y mae ei thema yn ymwneud bron heb eithriad â'r amser presennol, ac â'r pres- ennol y cysylltir ei diddordeb. Er i'r cerddi fod yn aml yn chwedlaidd, fe'u cyfansoddid ar gyfer gwyl grefyddol arbennig; cerddi at alwad oeddynt felly, fel y gwelwn yn eglur yn y rhai a ganodd Pindar er clod i'r buddugwyr yn y mabolgampau cenedlaethol. Gwahaniaeth nodedig arall rhwng y telynegion Groeg a thelynegion modern ydyw bod yn ycyntaf elfen chwedl- aidd neu elfen ddidactig-hyn yn sicr yn etifeddiaeth o'r hen hanesgerdd enwog. Ofer fyddai ymchwil y neb a ddisgwyliai gael yn nhelynegion y Groegiaid y math o beth yr ydym ni yn gyfarwydd ag ef mewn llenyddiaeth Gymraeg. Am ganrifoedd lawer, nid oedd ymhlith y Groegiaid ond siantiau, hymnau, cerddi neithior, galargerddi, ymdeithganeuon a phethau tebyg o symlrwydd poblogaidd; eu datgeiniaid ydoedd y cerddorion cefn gwlad, galarwyr proiffesiynol a beirdd y pentrefi bychain. Nid ymddiddorai'r gwir artist ond yn yr hanesgerdd ddisglair gaboledig crwydradau Odyssews neu fuchedd Achil oedd ei ysprydoliaeth a'i Awen. Annelwig iawn felly oedd y rhan a chwaraeid gan y delyneg yn eu cerddoriaeth