Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Natur Hanes.* DAETH pwnc hanes i sylw arbennig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, mae'n debyg y byddai'n gywir dweud na roddwyd erioed gymaint sylw iddo ag a wneir yn ein dyddiau ni. Fel y dywed Dr. C. H. Dodd, The problem of history has become the most urgent problem of our time."1 Y mae amryw o resymau am hyn, ac yn eu plith gellir nodi'r rhai a ganlyn. i. Mewn oes wyddonol daeth dyn yn fwy ymwybodol hefyd o hanes, a gweled na all ddeall problemau cyfoes na'u dadrys heb olrhain eu hachosion i ddigwyddiadau a fu. Nid marw mo'r gorffennol oblegid llunia ein bywyd heddiw. The living past," ydyw, chwedl F. S. Marvin yn nheitl ei lyfr adnabyddus; ac fel y dywed Butterfield, "The past, in fact, must never be regarded as a fossil, or as having existed merely to be the object of the historian's scientific curiosity "2 2. Gorfodwyd dyn gan ddigwyddiadau mawr y blynyddoedd diwethaf i wynebu o'r newydd ystyr ei dynged. Daeth yr her bennaf i'w ffydd nid oddi wrth natur ond oddi wrth ddigwydd- iadau hanes a heriodd ei gred mewn rhagluniaeth ac ymddangos fel pe'n gwadu bod pwrpas o gwbl i'w fywyd. Gweled patrwm clir yn nigwyddiadau cymhleth ein dydd sy'n anodd i ddynion heddiw, ac fe'u bygythir gan yr hyn a eilw Niebuhr y perygl o goll ystyr. 3. Trwy gyfodiad Comiwnyddiaeth bu rhaid i ni wynebu dehongliad o hanes na ellir ei anwybyddu, ac a'n gorfoda i ail- feddwl ein holl syniadau amdano. Os gwrthodwn wneuthur hynny nid ydym ond yn cuddio ein pennau yn y tywod. 4. Daethom ni sy'n derbyn y ffydd Gristionogol i sylweddoli yn gliriach fod honno'n grefvdd hanesyddol mewn ystyr arben- nig iawn. Gwelsom o'r newydd nad mater o brofiad cyfriniol, nac ychwaith o ddatganiadau diwinyddol haniaethol, mo ddat- guddiad, ond mater o weithredu gan Dduw ei Hun mewn hanes, ac mai cofnodiad o'r gweithredu hwnnw sydd ar yr un pryd yn ddehongliad o hanes a geir yn y Beibl. Pwysleisir y ffaith hon gan Dr. C. H. Dodd pan ddywed am ysgrifenwyr y Beibl, Scarcely one of the Biblical writers is of the type of the pure *Anerchiad a draddodwyd yn Undeb Athrofa'r Bala, Gorffennaf, 1950.