Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad LIFE IN A WE'LSH COUNTRYSIDE: A Social Study of Llanfihangel yn* Ngwynfa. Alwyn D. Rees. Td. 18S. Pris 12/6. University of Wales Press, Cardiff. Yn y gyfrol ddiddoiol hon cais Mr. Rees, Cyfarwyddwr Dosbarthiadau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, roddi i'r darllenydd astudiaeth gym- deithasol o fywyd ym mhlwyf Llanfihangel yng Ngwynfa. Da o ibeth yw ı'ıı anthropolegwyr droi eu sylw at Gymru, canys yn y gorffennol bron yr unig astudiaethau o'r natur hwn a welid oedd y rheini o gymdeithasau "cyntefig" ym mhellafoedd daear. Dyma ddechrau yng Nghymru ac y mae croeso arbennig i'r gyfrol hon oherwydd hynny. Cofiaf un o'n prif lenorion, wrth drafod effaith seicoanalysis ar lenydd- iaeth, yn datgan bod tuedd ymhlith rhai llenorion i sgrifennu fel petaent yn gwylio e� hymysgaroedd yn gweithio, ac nid wyf yn siwr nad yw'r feirniad- iaeth yr un mor deg am waith amryw o'n hanthropolegwyr cymdeithasol. Eir i wylio cymdeithas yn byw, i ddadansoddi ei helfennau, i ddal chwyddwydr uwchben ei mecanyddwaith ac i ddefnyddio jargon technegol i ddisgrifio'r cwbl. Ac er mor fanwl gywir y cwbl, nid yw'r darlun cyfan yn aml yn rhoi inni syniad o'r gymdeithas gyfan fywiol, er ibod y darluniau manwl o wahanol arweddau'r bywyd yn gwbl glir. Nid yw'r gyfrol hon yn euog o hyn-yn wir rhai o'r dose-uỳs sydd ar fai yma-ac fe'n gedy â darlun cyffredinol pur effeithiol o fywyd y plwyf. Er hynny, y mae Mr. Rees yntau yn defnyddio llawn gormod o'r frithiaith anthropolegol er mawr anaf ì'w arddull Saesneg, e.e., The repudiation of the aristocracy and the re- tardation of acculturation was the negative side of a renaissance (163) neu, ar yr un tudalen, this acceptance was no ordinary case of cultural diffusion by which an overt element is borrowed and gradually integrated with the pre-existing elements through being endowed with function and meaning." Yn yr un modd annhegwch â'r Saesneg yw geiriau fel "special- isms (170), "fractionated" (18), a hyd yn oed ''familistic," "prior to," a "sibling." A chan fy mod yn sôn am yr iaith, cystal sôn yma am wallau megis 'appartment' (39) 'concensus' (3), 'mantle' (43), 'embarassment' ,(83). Nid wyf yn credu bod yr awdur yn ddoeth yn ei ddewis o'i ardal àìi thrafod yn y dull a wna. Petai'r plwyf yn uned ddaearyddol lwyr ni chyfod- ai'r feirniadaeth hon, ond, yn fy marn i, y mae dylanwad y plwyfi cylch- ynol ar blwyf o'r fath yn gyfryw fel na ellir astudio bywyd yr un plwyf hwnnw heb sylw manwl hefyd i fywyd y lleill. -Ofer fyddai astudiaeth gymdeithasol o blwyf Llanwrin dyweder, heb ei osod yn ei Ie mewn astud- iaeth o holl gymdeithas dyffryn Dyfi. Gellid cywiro peth ar y setting mewn Rhagymadrodd helaeth ond y mae pennod ragarweiniol Mr. Rees yn nodedig o fyr ac annigonol. Dilynir y bennod hon gan benodau ar The Economy," "House and Hearth," "Farmsteads," "The Family," ".Rindred,"