Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Hen Gerddi Duwiol I. Yn y flwyddyn 1696 cyhoeddwyd casgliad o gerddi crefyddol yn dwyn y teitl Carolau a Dyriau Duwiol, Neu Goreuon Gwaith y Prydyddion Goreu yngHymru. Yr hyn a Argraphwyd yn ofalus, yn y Flwyddyn, 1696 Ac ar werth gan Thomas Jones." Nid hwn oedd y casgliad cyntaf o gerddi i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg, oblegid yr oedd eisoes lyfrau cyffelyb ar y farch- nad. Cyhoeddesid Salmau Cân Edmwnd Prys yn 1621, a dech- reuasid cyhoeddi gwaith y Ficer Prichard yn 1659. Yn y flwydd- yn 1683 cawsid Cynghorion Tad i'w Fab, gan Henry Evans o Fedwellty, ac yn 1684 yr oedd Thomas Jones wedi cyhoeddi Y Gzvir er Gwaethed yw. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daethai Cerdd-Lyfr Ffoulke Owens allan o'r wasg. Nid yw'r rhestr hon chwaith yn gyflawn, ond dengys fod amryw gasgliadau o gerddi Cymraeg eisoes mewn print pan gyhoeddodd Thomas Jones ei gasgliad yntau yn 1696. Er hynny, erys ei lyfr ef yn ddiddorol a gwerthfawr, oblegid ar wahân i'r ddau lyfr diwethaf a enwyd gwaith un bardd yn unig a oedd yn y llyfrau eraill fel rheol, ac nid casgliad o weithiau amryw feirdd; at hynny, nid oes gopîau cyflawn o'r ddau lyfr diwethaf ar gael erbyn hyn, er bod darnau ohonynt wedi dyfod i'r golwg yn ddiweddar. Felly, y mae llyfr Thomas Jones yn 1696 yn dal yn bwysig gan mai ef yw'r detholiad hynaf sydd ar gael erbyn hyn, hyd y gwn i, o weithiau amryw feirdd a ganai yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth gasglu ei ddefnyddiau at ei gilydd manteisiodd y golyg- ydd ar ddefnyddiau a gyhoeddesid eisoes. Cydnebydd ei hun fod pump a deugain allan o'r pedair cerdd ar ddeg a deugain a oedd yn llyfr Ffoulke Owen wedi eu cynnwys yn ei gasgliad ef, a chynhwysodd hefyd ddetholiad helaeth o gerddi Henry Evans, Bedwellty, yn ei lyfr (td. 216­262). Gwyddom hefyd fod rhaíi