Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aros yn y Winwydden. Myfi yw y wir winwydden. Onid erys un ynof fi, efe â daflwyd allan megis oangen ac a wywodd" — dyna eiriau'r Iesu. (Ioan xv, 6.) Yn y Gymdeithas Brydeinig eleni ac hefyd yng Nghynhadledd y llynedd, hawliwyd gan lywydd yr adran Seicoleg Ie arbennig o bwysig a llywodraethol ym mugeiliaeth meddwl ein cenedl. Y mae Syr Cyril Burt ar y diwifr yn hawlio'r un peth yr wythnosau hyn. Mewn gair, hawliant le a swydd yr Eglwys, heb ystyried bod gan yr Eglwys ddehongliad cwbl wahanol ar y meddwl dynol, a ffordd gwbl arall i ddyfod at Wirionedd. Y mae hyd yn oed ein gweinidogion a'n hathrawon diwinyddol yn rhy du- eddol 0 lawer i dderbyn syniadau seicolegwyr gwyddonol cyfoes yn hytrach na dysgeidiaeth bendant yr Ysgrythur. Ceisiwn amlinellu'r safbwynt Cristionogol. Pwnc y sylwadau hyn yw datblygiad meddwl dyn, ac ymhob datblygiad gwêl y credadun law y Creawdwr, gwêl ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfnder tywyll, ar wyneb dyfroedd dwfn, ar wyneb daear aflunaidd a gwag, gwêl yr anhrefn yn troi'n drefn, a geni ffurf a bywyd; gwêl y byd o'r diwedd yn ymddangos yn llwyfan i fywyd. Gwêl y credadun, drachefn, ysbryd Duw yn ymsymud dros annelwig ddefnydd y corff, sef y gell syml a ymddangosodd gyn- taf yn y lleithder rhwng tir a môr, a honno yng nghyflawnder amser yn esgor ar gorff dyn, teml gymwys i ysbryd y Gwirionedd. Gwêl eto Ysbryd Duw yn ymsymud dros elfennau meddwl dyn, gwêl yr elfen gyntefig, greddf, yn graddol ymostwng i'r ail elfen, sef i synnwyr teimladol. Yna blodeua'r synnwyr cyffredin hwn yn y drydedd elfen, sef meddwi rhesymegol, ac yno saif heb ddatblygu ymhellach oni dderbynnir goleuni datguddiad a chyr- raedd doethineb. Y mae Duw yn ewyllysio i ddyn aros yn y winwydden ac yn y diwedd yn ewyllysio iddo dderbyn y gallu i ddirnad dirgelwch Duw. sef y Crist y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig ynddo. A dyma sy'n peri bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng barn y Cristion a barn y byd ar bron bob pwnc; gwêl y credadun law