Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyrthiau'r Arglwydd Iesu. FEL y gwyddys, y mae'r gwyrthiau yn ffurfio rhan helaeth o'r Efengylau. Gellir eu trafod o ddau safbwynt. Y cyntaf yw trafod athroniaeth y mater. A yw gwyrth yn bosibl? Beth a olygir wrth wyrth ? Nid oes ofod i drafod y mater yn y ffordd yna yn yr erthygl hon. Carwn awgrymu i'r darllenydd ddarllen Y Sanhedrin, gan E. Tegla Davies, pen. iv; Y Dysged- ydd, Chwefror, 1948, ysgrif gan J. E. Daniel; Miracles (C. S. Lewis), a'r Geiriadur Beiblaidd, d.g. (Gwyrthiau) gan W. H. Harris. Yma bodlonwn ar eu trafod o safbwynt y goleuni a deflir ar y mater gan waith ysgolheigion Beiblaidd. Am lawer canrif bu'r Eglwys yn defnyddio dau brawf o ddwyfoldeb Crist. (a) Y cyntaf yw'r prawf oddi wrth broffwydoliaeth," h.y.. fod proffwydi'r Hen Destament wedi dweud amdano cyn ei ddod." (b) Yr ail brawf a ddefnyddiwyd gan yr Eglwys i ddangos dwyfoldeb Crist yw prawf y gwyrth- iau," h.y., dyma'r sicrwydd pendant i'w genhedlaeth Ef ac i bob cenhedlaeth ei fod Ef yn Fab Duw. Pan ddaeth beirniadaeth Feiblaidd i fri bu'r ddau brawf ar y dechrau dan gryn dipyn o gwmwl. Dangoswyd mai dynion. yn perthyn i'w hoes oedd y proffwydi ac nid dynion yn gallu darogan gyrfa Iesu o Nasareth o gam i gam. Ac eto dylidj cofio eu bod yn tystiolaethu i ddyfodiad y Crist. Ni pherthyn i ni yma drafod y mater hwn yn llawn. Credaf na ellir rhagori ar ffordd Hooker o egluro'r hyn a olygir wrth dystiolaeth y proffwydi. Yr un ydyw amcan yr Hen Destament a'r Newydd, a dyma'r gwahaniaeth rhyngddynt. Dysgwyd iachawdwriaeth yn yr Hen trwy Grist oedd i ddyfod, gan y Newydd trwy Grist y Gwaredwr oedd wedi dyfod, a hefyd mai'r Iesu a groeshoel- iwyd gan yr Iddewon ac a gyfododd Duw o feirw ydyw'r Crist." (Lled-gyfieithiad o Laws of Ecclestiasttcal Poliiy, I, pen. xiv.) Ein gwaith ni yma yw trafod y gwyrthiau a briodolir i Grist yn yr Efengylau, ac o'r nifer a briodolir iddo, gwyrthiau iacháu yw'r mwyafrif o ddigon. Yn wir, tair a geir yn dangos ei awdurdod ar y meirw, a naw yn dangos ei awdurdod ar natur.