Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hanner cant pan ddechreuasant ffermio Pant Coch. Golygai hyn galedwaith iddynt fel teulu, torri coed, braenaru'r tir a chael rhyw drefn arno er sicrhau tir pori a thir llafur i'w arddio. Y dref agosaf atynt oedd Dodgeville, pymtheng milltir i ffwrdd, lle'r oedd gwaith mwyn plwm, a hwnnw yn gyrchfa llawer o Gymry: yr oedd eglwys Gymraeg pur lewyrchus perthynol i'r Methodistiaid yno. Ceir hanes ychydig deuluoedd Cymreig wedi ymsefydlu yn Blue Mounds cyn i deulu Pant Coch ddyfod yno, a'r rheini yn perthyn i wahanol enwadau ac yn cynnal moddion yn nhai ei gilydd. Bu gohebiaeth lled gyson trwy gydol y blynyddoedd rhwng y brodyr William a Richard. Ychydig iawn o lythyrau'r olai sydd ar gael; rhagorach yw eu harddull na'r eiddo Richard. Cadwyd cryn nifer.o lythyrau William: ysgrifennai ef air yn union fel yr oedd yn ei seinio, heb dalu nemawr os dim sylw i sillebu cywir. Tegwch ag ef, ni gredwn, ydyw rhoddi copi o'i lythyrau heb newid llythyren na sill ynddynt. Wele'r llythyr cyntaf sydd ar gael: Pant Coch, Medi i, 1851. Fy Anwyl Frawd, Yr ydwyf yn gyru hwn o lainiau atoch gan obeithio eich bod yn iach ach teulu. I Dduw y byddo y mawr glod. Trwm genym glywad eich bod yn colli eich plant ohud ach gadal mor inig. Ond triwch fod yn debig i Job. Mi ddaw ein tro ninau yn fuan bellach i farw. Y mau yma le iach iawn 11e yr ydani yn buw. Y mau llawar o lefudd afiach yn y wlad hon. Yr oedd yma lawar o waith y leni hefo yr ud, cynheua mawr, ond mi gawsom dywydd da i'w gasglu. Yr oedd hi yn lled lub yma dechra ha leni, ond mi nawd Cyfarfod Gweddi trwy y wlad yma am dywydd teg i'r cynheua, ac mi gawd tywydd da iawn. Yr oedd yma ud y leni gin dalad a mhen i bron iawn, cnwd mawr. Gwenith tri chant o ysdycia mawr, haidd cant a hanner ò ysdycia, cerch 4 cant o ysdycia ac well. Y mau y tatws yn dechra pydru. Yr oedd yma datws da iawn bob amser o'r blaen. Rhof ychydig o hanas fy hun i chwi, a fy nheulu. Ychydig am y Stoc-4 buwch 4 o ychain, 2 uch ifainc. Mi fu farw 4 ò.loîa i ni y llynadd. Wedi gwerthu 2 fuwch a lloia y leni. Y mae yma gefful ifanc,