Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diolchgarwch. Am bob cyflawnder gaed ar hyd Y flwyddyn hon clodforwn Di, Ein Tad a'n Llywydd tra'ri y byd, Ein Cysgod a'n Goruchaf Ri. Er inni grwydro 'mhell o dre' A gwadu D'enw lawer awr, Ffyddlon ydwyt, ein Tad o'r Ne' Digeulan Dy drugaredd mawr. Wele ni yma wrth Dy draed Yn diolch am Dy gariad hael, Yn gogoneddu gwerth y Gwaed Dywalltwyd dros bechadur gwael. O derbyn, Arglwydd Iôr, ein llef Fry ar Dy Orsedd yn y gwawl Ddisgleiria yn nglas entrych nef. Dad Tragwyddoldeb, clyw ein mawl W.D.P.D.