Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. DAMHEGION Y DEYRNAS. Gan y Parch. T. Lloyd Evans, Treforus. Undeb yr Annibynwyr, Aberiawe. 7¤6. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau Saesneg ar y damhegion yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, ond ni chaed dim cyfàtebol yn Gymraeg. Torrwyd ar y distawrwydd esboniadol yng Nghymru gan un o weinidogion blaenaf yr Annibynwyr, y Parch. Trebor Lloyd Evans, B.A., B.D., y Tabernacl, Treforus, gyda llyfr o fwy na dau can tudalen. Gwelir ar unwaith fod yr awdur yn gyfarwydd â'r gweithiau Saesneg, eithr ni ddilynodd batrwm yr un ohonynt wrth gyflwyno'r damhegion. Pedair ar bymtheg o bregethau sydd yn y Uyfr a rhagymadrodd helaeth. Pregethau a bregethwyd ydynt ac nid traethodau dan rith pregethau. Diwinyddiaeth pregethwr a geir gan hynny yn y llyfr. Awgrymodd un awdur dysgedig mewn llyfr a gyhoeddwyd ryw ddwy flynedd yn ôl mai diwinyddiaeth o ansawdd eilradd ar y gorau yw diwinyddiaeth pregethwr. Iddo ef mesur gwirionedd diwinyddiaeth yw ei gysondeb rhesymegol a'i gydymffurfiad â chyfundrefn athronyddol. Ni fynnem fychanu dim ar elfen felly mewn pregethu, ond yn sicr nid" dyna'r safon i'r pregethwr o ddyddiau'r Testament Newydd hyd heddiw. Ei safon ef yw cymhwyster y ddiwinyddiaeth i bortreadu Crist, nid mewn doethineb geiriau ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth. Os yw diwinyddiaeth yn cyflwyno Crist i ddynion, ac yn tynnu dynion ato, yna y mae'n rhaid ei bod yn" wir. "Pregethu yw cychwynfan diwinyddiaeth a'i nod," meddai Karl Barth, ac oni ddywedodd y Dr. T. C. Edwards mai'r prawf o wirionedd athrawiaeth yw A ellir ei phregethu?" Nid yw awdur y llyfr yn ymddiheuro am drin y damhegion yn nuU pregethwr, ac nid oedd angen iddo wneud. Ar wefusau pregethwr y clywyd hwy gyntaf, a rhwng pregethwr a'i gynulleidfa y mae eu cynefin eto. Nid yw hynny'n golygu fod y pregethwr heddiw i anwybyddu ym. chwiliadau hanesyddol a llenyddol y beirniaid Beiblaidd. Gwneir defnydd helaeth ohonynt yn y llyfr hwn, eithr darostyngodd yr awdur yr elfen hon i'w amcan efengylaidd. Fel llawforwyn yr efengylydd y sylweddola beirniadaeth ei hystyr yn llawn. Un o ragoriaethau'r pregethau ýw eu pwyslais ar gefndir y'damhegion a'u cysylltiad â bywyd cyffredin Palestina. Damhegion yr Iesu yw'r ffyn- honnell orau a feddwn o wybodaeth am fywyd pobl gyffredin y wlad (xvi). I'r pregethwr fodd bynnag gwerth y cefndir yw'r goleuni a rydd ar ystyr y ddameg J[xxx). Ambell dro ysgydwai'r Iesu ei wrandawyr drwy ddefnyddio cymhariaeth a oedd yn groes i deithi meddwl ei oes (td. 33). Nodwedd arall yn y pregethau yw eu pwyslais ar y cysylltiad rhwng y damhegion a'r Gŵr a'u llefarodd, ei fywyd a'i genhadaeth. Dyma'r anghen- raid cyntaf wrth esbonio'r damhegion. Os anwybyddir eu cysylltiad A'r