Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iesu ânt yn fynegiant o osodiadau cyffredinol glastwraidd ar y gorau, ac yn ebyrth i esboniadaeth ffansîol ar y gwaethaf. Drwy gadw'r cysylltiad diogel- odd Mr. Evans ei hun, ei ddiwinyddiaeth a'i wrandawyr. Oherwydd iddo ofalu am gysylltiadau gwreiddiol y damhegion yr oedd y ffordd yn agored i'r pregethwr egluro eu cenadwri i'w oes ei hun (td. 40). Dywedai Calfin nad oes pregethu effeithiol heb i'r pregethwr gymhwyso'r gwirionedd at fywyd ei wrandawyr. Ar ddechrau'r llyfr ceir rhagymadrodd helaeth a ddengys fod Mr. Evans yn gyfarwydd â Jlenyddiaeth hen a diweddar ar ei bwnc. Gwelir hyn yn amlwg iawn yn yr adran ar Dehongli'r Damhegion." Dangosir gwendid y dull alegoriaidd o esbonio, a cheir trafodaeth ddiddorol ar y cwestiwn a fu i'r Iesu ei hun esbonio ei ddamhegion. Gan mai Damhegion y Deyrnas ydyw teitl y gyfrol gellid disgwyl adran yn y rhagymadrodd ar natur y Deyrnas, a phrif ddiffyg y gwaith yw na cheir dim o'r fath ynddo. Nid yw'n hawdd casglu o'r llyfr beth yw syniad. au'r awdur ar y pwnc, ac y mae'n beryglus dywedyd llawer, ond gellir awgrymu mai ychydig os dim lle a roddir i eschatoleg yn y pregethau. A ydyw'r brawddegau a geir ar dudalennau xix a 126 yn golygu fod yr awdur yn gwrthod yr eMen apocalyptaidd ac eschatoleg yr efengylau? Dywed fod sectau wedi ymddangos sy'n gwyrdroi dysgeidiaeth y T.N. ar yr Ail-ddyfod- iad. Y mae hynny'n wir, eithr onid gwaith yr Eglwys yn gwrthod cymryd yr athrawiaeth hon 0 ddifrif a gyfrif am eu bodolaeth? Y mae'n bosibl mai anwybyddu'r agwedd hon ar y gwirionedd a barodd fod un enghraifft o esboniadaeth bur amheus yn y .llyfr (td. 18), ac y mae'n eglur fod yr awdur ei hun yn ymwybodol ei fod ar dir ansicr. Llyfr gan bregethwr ar bregethau ydyw hwn, ac y mae'n waith rhagorol o'r safbwynt hwnnw, eithr nid yw hynny yn cyfyngu ei werth i un cylch. Y mae'n astudiaeth y gall athrawon wneud defnydd helaeth ohoni mewn ysgolion. R. H. Hughis. Porthaeihwy. THE ROAD TO LOVE. Gan Gwilym O. Roberts. 239 td. Allen and Unwin. Pris, 9/6. Y mae'n hysbys i lawer i'r Parch. Gwilym O. Roberts, un o weinidogion ein Cyfundeb, wneuthur astudiaeth arbennig o amodau priodi Uwyddiannus. Cafodd Mr. Roberts brofiad helaeth eisoes fel cyfarwyddwr yn y mater pwysig hwn pan ydoedd yn weinidog yn ninas Leeds. Bu'n gweithio gyda Phrifysgol Leeds yn y maes hwn, ac yn ddiweddar aeth yn athro yn y pwnc i un o golegau Taleithiau Unedi-g America. Rhoes Mr. Roberts ffrwyth ei wybodaeth a'i brofiad inni yn y gyfrol hon. Ni ddichon i unrhyw aelod o'r eglwys y perthyn Mr. Roberts iddi, o ddarllen y llyfr hwn yn ystyriol, beidio a llawenhau yn y weinidogaeth odidog a sylweddola'r awdur fel arbenigwr yn y maes hwn. Dengys Mr. Roberts yn glir fod dealltwriaeth digonol o amodau priodi llwyddiannus yn rhagdybio astudiaeth ofalus o'r