Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

annigonolrwydd moddau ymateb rhywiol yn y gymdethas Brydeinig-Americ. anaidd gyfoes yn ei hiaith ei hun. Ond pan fo'n disgrifio serch aeddfed aeu osgo cymeriad digonol gall yr awdur esgyn i dir uchel. Golyga hyn fod y llyfr yn un ar gyfer y gŵr neu'r wraig gyffredin yn anad neb. Ni rag- dybia'r ymdrafod unrhyw wybodaeth dechnegol am seicoleg nac am unrhyw wyddor arall, er fod y gwirioneddau a gyflwynir yn codi o ymchwil a seil- iwyd ar y method gwyddonol. Ni wn i am well llyfr i'w roddi yn llaw gŵr ieuanc neu ferch ieuanc sydd ar fin priodi. Dylai'r llyfr fod yn llaw rhieni, athrawon ysgol, a phob gweinidog yn ogystal. Y mae'n fwynglawdd o gyfar- wyddyd i gyfarwyddwyr mewn materion caru, priodi a byw. Ceir nodyn rhagarweiniol i'r gyfrol gan y seicolegydd adnabyddus, yr Athro William Brown, a rhagair gan Dr. David Mace, ysgrifennydd y Cyngor Cenedlaethol er Cyfarwyddo Priodas. Peth pleserus yn rhagym. adrodd yr Atfifo Gwilym Roberts ei hun ydyw'r gydnabyddiaeth hael a rydd i'r rhai a'i cynorthwyodd gan ddechrau gyda'i dad a'i fam ei hun. Y mae gan yr adolygydd ei resymau ei hun dros lawenhau yn nheyrnged ddiymatal Mr. Roberts i'r Dr. Dàvid Phillips, "who," medd yr awdur, "conducted the first intensive and protracted analysis of my mental life." Hyderaf y caiff y gyfrol werthfawr hon gylchrediad eang iawn yq y wlad hon ac yn America. R. Meirion Robsrts. PATRYMAU LLENYDDOL Y BEIBL. Gan yr Athro Bleddyn Jones Roberts. Cyfres Pobun. Gwasg y Brython. Pris, 4/ Teimladau braidd yn gymysg sydd gennyf ar 61 darllen Patrymau Llenyddol y Beibl," gan yr Athro Bleddyn Jones Roberts, teimlad o ddiolch diffuant a hefyd peth siom. Gallaf ddweud yn ddibetrus mai hyfrydwch mawr imi oedd gweld llyfr mewn gwisg Gymreig, y bu cymaint o angen amdano cyhyd, yn cynnig i ddarllenwyr Cymreig ffrwythau beirniadaeth Feiblaidd heddiw,ac yn ceisio amlinellu'r casgliadau a gyrhaeddwyd drwy astudiaeth wyddonol o'r Beibl a'i gefndir, a'r damcaniaethau a goleddir ai hyn o bryd gan arbenigwyr ym meysydd y ddau Destament. Y peth sy'n peri siom imi yw nad yw'r llyfr yn cadw at yr un safon o ragoroldeb drwy ei holl rannau, yn enwedig, y penodau sy'n trafod y Testament Newydd. Rhagorol, yn wir, yw rhai o'r penodau ar batrymau llenyddol yr Hen Desta. ment, er bod amryw osodiadau a wneir gan yr awdur, hyd yn oed yn y penodau hyn, yn agored i'w hamau. Y mae'n deg dweud, wrth gwrs, fod Mr. Roberts yn llafurio o'r dechrau dan anfanteision amlwg, ac yn gorfod, o brinder gofod, grynhoi gormod, a mynegi'n noeth a diaddurn ddamcan- iaethau dyrys y mae y tu 61 iddynt lenyddiaeth helaeth a byd-eang. Felly, fe'm cefais fy hun yn gofyn o bryd i'w gilydd a fedrai Pobun yr ysgrif- ennwyd y llyfr ar ei gyfer fanteisio llawer ar destunau a grybwyllir mor brin a heb unrhyw fynegai ym mh'le i gael manylion pellaçh pe bai angen amdanynt. Rhennir y llyfr yn ddwy brif-ran. Trin y rhan gyntaf yr Hen Destament gan gynnwys y penodau a ganlyn: (1) Mythau neu Chwedlau. (2) Hanesion