Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wir fod C. H. Dodd (Parables of the Kingdom, td. 117), yn dweud i'r Efeng- ylydd greu fframwaith i'r hanes am alw Lefi, a dengys anaddasrwydd y foes- wers, Ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch," i'r cwestiwn a ofynnwyd. gan y Phariseaid. Ond y mae'r rhan gyntaf o'r dywediad, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai cleifion yn ddigon addas i'r cwestiwn ac yn hollol gartrefol yn yr hanes am alw Lefi a llygadrythu'r Phariseaid. Yn wir, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn deall sylwadau Mr. Roberts am y Phariseaid 0 gwbl. Ymhellach, os cynnyrch yr Eglwys Fore yw'r achlysur a'r cefndir, y mae'n hollol anneall- adwy i mi sut y mae'r dywediad wedi ymgartrefu yn yr un amgylchiadau a'r un cyd-destun yn y tair Efengyl. Dywed Mr. Roberts fod yr "achlysur" a rydd Marc yn "amhosibl." Ond sylwer fel y mae Mathew a Luc wedi dilyn Marc a rhoddi y dywediad ar yr un achlysur "amhosibl." Cytunir heddiw fod Marc wedi tynnu ar draddodiad Rhufain, Luc ar draddodiad Cesarea, a Mathew ar draddodiad Jerwsalem. Os yr Eglwys "wrth ei gwaith" a greodd yr achlysur, paham na buasai eglwysi Cesarea a Jerw- salem wedi creu achlysur arall a mwy posibl," a phaham y dibynnodd Mathew a Luc ar arweinydd mor anniogel? Gair cryf nas gellir ei gyfreith- loni yw amhosibl." (Gwêl William Manson, Jesus the Messiah, td. 28.) Geill y llyfr hwn fod yn werthfawr ac yn ddefnyddiol i bob un a fydd vn barod i ymboeni ychydig dros awgrymiadau a chasgliadau Mr. Roberts, ac yr ydym i gyd yn ddyledus iddo am roddi mewn modd dymunol amlinelliad yn Gymraeg o sefyllfa astudiaethau yr H.D. a'r T.N heddiw, ac am godi cynifer o broblemau y gellir dadlau yn eu cylch. S. H. HEDLEY PERRY. Aberysiwyth. BYDD MELYS FY MYFYRDOD. Gan yr Athro J. Vernon Lewis. Gwasg \Gomer. Td. 56. Pris. 4/ Llyfr bychan ei faint ond mawr ei sylwedd yw'r llyfj uchod o eiddo'r Athro Vernon Lewis o Goleg yr Annibynwyr, Aberhonddu. Maes ei fyfyrdod yw Llyfr y Salmau, maes eang a dyrys sy'n peri i lawer betruso cyn mentro gweithio arno. Ar gyfer y llyfr hwn bu'r Athro'n fodlon i ddewis ychydig iawn o'r maes yn unig a cheisio dangos cymaint o. ogoniant y maes ag sydd bosibl o'r ychydig ganolfannau a ddewisir ganddo. Cynnwys y llyfr bump o benodau, pedair ohonynt yn trin y Salmau a ganlyn: (1) Salm i. Y Ddwy Ffordd. (2) Salm viii. Dyn a Natur. (3) Salm xxxii. Dihangfa. (4) Salm cl. Yr Haleliwia Uchel Symffoni'r Cread. Yn y bennod olaf ceir cyfieith- iad gwych o'r awdl enwog ".4 n die Freude" (I Lawenydd) gan Schiller, awdl a ddefnyddiwyd gan Beethoven pan gyfansoddodd ei nawfed symffoni i fynegi ei sicrwydd o fuddugoliaeth. a llawenydd tu hwnt i fethiant a siom- iant o bob math, y llawenydd y crewyd pob creadur byw i'w fwynhau. Defnyddir yr awdl yma gan yr Athro Lewis yn ei dro i daflu goleuni ar lawer agwedd yn y Sallwyr sy'n coroni'r cwbl sydd ynddo, y gobeithion a'r siomau, y Jlawenydd a'r tristwch, drwy alw yn ei eiriau terfynol (Salm cl, 6) ar bob perchen anadl i foli'r Tragywydd (Cymh. td. 44­48).