Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwaith Coll William Morris, Mon. CHWILOTA yr oeddwn a holi am beth digon diddorol arall, er nad o bwys mawr, pan ddeuthum yn annisgwyl o hyd i beth mwy diddorol a mwy ei bwys, nid amgen gwaith coll William Morris (1705—1763) Caergybi, Mon, ar Lysieueg, neu'n fanylach ar Arddio. Nid oedd y darganfyddiad gymaint ag y gallwn ei gymharu i un y gwr hwnnw a gafodd iddo ei hunan deyrnas am ei asynnod; eithr nid annhebyg chwaith y llawenydd. Yn ei Ragair i Lythyrau Morrisiaid Môn — The Letters of Lewis Richard William and John Morris of Anglesey (Morrisiaid Mon) 1728 — 1765," ysgrifenna'r Prifathro John H. Davies fel hyn am William Morris: Like his brother, Lewis, he was a man of many accomplishments, a good musician, a surgeon, a fair linguist, a student of Welsh literature and antiquities, and an expert botanist and conchologist. He spent many years in making a Botanologium or Herbal, but this work seems now to have been lost." (Vol. I, p. xxii.) Dengys y llythyrau gymaint yr hyfrydwch a gâi o'i ardd a'i gregin. Daeth y llawysgrif goll a groniclai waith William Morris yn ystod 1751 hyd 1756 am lysiau a garddìo i'm llaw i ymhen dau can mlynedd union. Ac fel hyn y bu. Gwyr pawb gweddol hysbys yn hanes Meth- odistiaeth fore Sir Fôn am enw Richard Thomas, Llanfechell— gwr a gyfrifir fel y pregethwr Methodist cyntaf a gododd o Fôn. (Amheuaf bellach ai cywir ydyw haeru hynny; onid William Jones, Trefollwyn, a biau'r flaenoriaeth ? Ond nid oes a wnelo hynny â'r pwnc.) Ysgrifenasai Richard Thomas lythyr yn y Deheudir at Howel Harris yn 1746. Daeth y ll�thyr hwnnw drwy ryw ddirgel ffyrdd o Drefeca drwy Eifionydd i law Dr. John Williams Brynsiencyn. Aeth y llythyr gwreiddiol ar goll. Gwyddys i lawer o bapurau'r Dr. John Williams fyned i lyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Euthum innau i ymofyn caniatâd Mr. Arthur Venmore, Lerpwl a Chemaes, câr ac ysgutor Dr. John Williams. Cefais groeso a charedigrwydd parod ganddo i wneuthur unrhyw ymchwil a fynnwn. Wedi gorffen gyda hynny o beth dangosodd Mr. Venmore rai pethau eraill o ddi- ddordeb, ac yn eu plith lyfr wedi ei rwymo mewn lledr da, saith