Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ôl o Wibdaith. Mae'ii debyg mai dilyn ffasiwn yn unig yr ydym pan yn galw rhywbeth na hoffwn roddi barn arno yn "bwnc dyrys"; ac os nad dyrys yn hollol y cwestiwn a osodaf i chwi. gadewch i ni ei alw 0 leiaf yn ddiddorol. Pa hawl, tybed, sydd gan ddyn i'w alw ei hun yn wibdeithiwr i fan lle cafodd y fraint o drigo am nifer o fisoedd, i gynêfino â phatrwm ac arddull bywyd estron, ac i astudio iaith a syniadau trigolion un o'r llecynnau prydferth- af ar wyneb daear? Dim hawl o gwbl, ag ystyried agwedd gorfforol y mater; ond o gofio'r amryliw ddarluniau a wibiodd trwy'r meddwl ac ambell i sylw gafaelgar mewn ymddiddan, ambell i gymeriad ffraeth — pcthau tros dro yn unig-yna efallai nid cwbl anghywir yr honiad o fod yn wibdeithiwr. Llygad i amgyffred yr hyn a gynigir gan Natur, a'r ddawn i graffu ar bethau anghyffredin mewn cymeriad unigolyn a chenedl — dyna fydd unig anhepgorion y teithiwr. Yn y math o wlad sydd ohoni heddiw yn Awstria. "Yr unig anhepgorion?" Na, nid felly; beth am y dogfennau niferus ym mhoced eich siaced (mor debyg i'r ci â'i enw ar ei goler)? Y ffwdan a thrwst yn holi a chwilio am lety yn nhesni mis Awst, pan fod pob gwesty'n orlawn; y pryder di-ben-draw ynghylch bws a thrên? Ond beth fyddai hynny o'i gymharu â chael sefyll ar binacl yr uchaf o fynyddoedd Awstria, y wlad a haedda ei galw bron iawn yn wlad hud a lledrith? Yn ôl tyb llawer rhyw wlad bell ddiarffordd lle mae "byddig- ions ariannog yn tyrru i borthi chwaeth Americanaidd yw Awstria. A beth am y darlumau üynny yn y llyfrau ysgol o eira ac o blant yn llithro'n bendramwnwgl gyda dwy styllen a dwy ffon i lawr y llethrau serth ? Wel ie, ynte, ond 'd oedd y llyfrau hynny ddim yn cael eu defnyddio yn yr ysgol y bum i ynddi." Eithr pa les fyddai digalonni yn wyneb y fath anwybod- aeth? Byddai un ddihangfa ddiogel eto ar ôl; pwy na swynwyd rywbryd gan gerddoriaeth gynnes a gogleisiol y wlad oer anghysbell hon? Nid wyf hyd yn hyn wedi crynhoi ond eira a cherddoriaeth ffansîol fel ffrwyth pererindod y misoedd yn Awstria. Yn sicr,