Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cymeriad llai hyfryd — y Krampws, neu'r Diafol­-creadur hyll ddychrynllyd o wyneb du a chyrn hir a thafod anferth goch; hwh yn amlwg sydd yn trin y plentyn na haedda roddion y Sant Nicolas. Prin bod aelwyd heb ei choeden Nadolig, ei chan- hwyllau a'i hanrhegion. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, cyfarfyddem yn yr heolydd â thri llanc mewn gynau gwynion a choronau aur ar eu pennau-y Tri Brenin Sanctaidd yn teithio oddi amgylch yn canu eu carolau i ddathlu dyfod y Doeth- ion o'r Dwyrain at grud yr Iesu. O'r holl gymysgedd o deimladau ac atgofion a drychfeddyl- iau, beth tybed a erys? Miri afiaethus y dniasoedd? Newydd- deb gwlad dramor i'r gwibdeithiwr ? Ni fynnwn gyfaddef mai hynny'n unig a erys; fe erys y golygfeydd yn sicr, ond buan y syrffeda dyn ar y pethau gorau o hir gynefino â hwy yn eu hunfan. Yn y bobl, wedi'r cyfan, yr oedd fy niddordeb pennaf; cenedl o bobl dlawd yn drwg-dybio'r dyfodol, cenedl yn amheus o'i rhagoriaethau ei hun, cenedl a bwdodd wrthi ei hun am iddi golli pob ymdeimlad o genedlaetholdeb — cenedl heb fod yn genedl. Diflanedig yn wir oedd hanesion ystranciau gwleidydd- 01 a chynadleddau'r brifddinas bell; oherwydd fe'u cipiwyd yn anterth blodeuo mawreddog misoedd Ebrill, Mai a Mehefin. Gwyro o ffenestr i syllu ar fforestrydd conwydd ac ambell i eglwys fechan wyngalchog ar lethr mynydd; troedio llwybrau defaid trwy'r coedwigoedd i olwg y llyn tawel glas; ymweld â ffermwyr yn y tai a adeiladwyd gan eu hynafiaid o'goed a dyfodd ar y bryn o'r tu ôl i'r ty; ysguboriau uchel ond gweigion yn ymsythu'n rhodresgar a haerllug ger y ty fferm, a'r tyddynnwr yn hau ac yn cywain ei ychydig ŷd a gwair o bridd crintachlyd ochr y bryn, gan ymbalfalu i ddygymod ag athroniaeth foel yr hanner erw. BRYNMOR JONES. Coleg y Frenhines, Rhydychen.