Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu dwrn a dywedyd, nid yw hyn ond ffiloreg. Ond gan fod gennyf awdurdod y gwirionedd i sefyll o'm blaen, mi a ddywedaf yn hy mai Cymru oeddent. Cymro oedd Sadwrn, Cymro oedd Jupiter, Cymro oedd Mercurius, Cymru oedd y lleill; Nid wyf fi ddim yn dywedyd mai Cymru oeddent o'r wlad hon, nac wyf, mi wn well pethau. Ond gwyr oeddent o hiliogaeth <Gomer, o'r un ach a'n Cymru ninnau, ac yn siarad yr un iaith. Canys nid ydynt na Groeg na Lladin ond Cymraeg lân loyw. Sadwrn yw «gŵr nerthol ei fraich i ryfela, ei wir enw yw Sawd-dwrn, ei wraig a elwid Rhea, ac yn Gynraeg ddiled- iaith Rhiain. Eu mab a elwid Jupiter, ond yn Gymraeg Iau, neu Iefan, oblegid efe oedd yr ieuangaf o feibion ei dad. Enw ei wraig yw Juno, hynny yw Sian, neu Suan. Apol-lo oedd dduw yn. cyfrannu doethineb i ddynion, a'i gywir enw yw Ap y Pwyll. Dianaf yw gwir enw Diana. Fenus oedd dduwies y Cariad, a'i henw ar y cyntaf oedd Gwen, ac ymlaen. Ail law yw y rhan fwyaf o'r Drych. Y mae adrannau hir. ohono yn gyfieithu llythrennol, eithr wedi dywedyd hyn, rhaid chwanegu bod y cyfieithu yn dra disglair â delw arbennig Theo- philus Evans ei hun ar yr holl waith. Yr oedd Sieffre o Fynwy, llenor o'r ddeuddegfed ganrif yn wr wrth fodd calon Theophilus Evans. Pwrpas pennaf Sieffre oedd dyrchafu cenedl y Brytan iaid ar draul y Normyn, y Scotiaid a'r Saeson a ddaliai swyddi bras yn llys y Brenin ac yn yr Eglwys yn ei ddydd ef. Honnai Sieffre fod cenedl y Brytaniaid yn hanfod o Brutus a'i ganlynwyr, Groegiaid a diriasai ym Mhrydain ganrifoedd lawer cyn Crist. Y Brytaniaid felly oedd trigolion hynaf a chysefin y wlad. Gosodid pwys mawr ar hynafiaeth personau a chenhedloedd yn y dyddiau gynt. Hawliai eu hynafiaeth, ac urddas eu dechreuad, y flaenoriaeth iddynt mewn llys ac eglwys. Ni ellid dychmygu am ogoniant mwy ar genedl na'i bod o'r un gwaed a chenedl inor fawr ei bri ac mor urddasol â'r Groegiaid. Creodd gosodiadau Sieffre gyffro mawr drwy holl wledydd Ewrob, a rhannwyd y llenorion yn ddau wersyll cas a chenfigen- nus­-drosto ac yn ei erbyn. Erbyn dydd Theophilus Evans yr