Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd enwogrwydd Sieffre fel hanesydd dilys ar drai, ond yr oedd ei edmygedd ef ohono mor gynnes fel na fynnai golli ei afael arno'n llwyr, ac meddai: Ar ôl bod yr ynys hon (o benbwygilydd ohoni) ym meddiant yr Hên Gymru, ni wyddys yn dda am pa gymmaint o amser, y tiriodd yma wr o Gaer Droa a elwid Brutus, yr hwn, ac efe yn medru darllen a sgrifennu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gas o unfryd ei ddyrchafu yn Ben ar yr hen drigolion, y rhai (a hwy y pryd hwnnw yn anfedrus agos mewn pob peth ond i ryfela) a ddysgodd Brutus mewn Moesau dinasol, ac i blannu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaear, ond yn enwedig efe a'i haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell Genedl yn yr hen Amseroedd hynny yn gydnabyddus a hwy — sef yw hynny, i ddarllen a Sgrifennu, yr hyn ni chollasant fyth wedi'n. Dywedir i Frutns a'i wyr dirio ym Mrydain ynghylch Mil o flynyddoedd cyn geni Christ." Er i lawer o'r haneswyr golli eu ffydd yng nghampwaith Sieffre, ni fynnai Theophilus Evans droi ei gefn ar ei eilun. meddai eto Ond i ddychwelyd at Frutus. Fel y gwelwch chwi ddwy Gangen wrth ymgydio yn tyfu ynghyd, a myned yn un Pren, felly yr ymgymmyscodd Brutus a'i wyr yntef a'r hen Gymru, ac a aethont o hynny allan dan Enw Britaniaid er parchus goffadwriaeth i'r Gwr yr hwn a'i haddyscodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn." Yr oedd beirniaid yn nydd Sieffre yn amau ei ddamcaniaeth- au lliwgar ac yn chwerthin am ei ben. Câi Gerallt Gymro hwyl anghyffredin wrth gyfeirio at y Brut. Un arall o feirniaid cas y Brut oedd William Newbury — Gwilym Bach, chwedl Theophilus Evans. Y mae Theophilus Evans yn berwi drosodd pan fydd yn sôn am Wilym Bach, ond nid yw ef yn cyfeirio 0 gwbl at feirniadaeth Gerallt, nid am na wyddai amdani ond am fod gwaed Cymreig yng ngwythi Gerallt. Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain oedd