Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd a dywalltwyd allan, yn gwbl-gyfan megis y daeth i Suddas Fradwr, ei Frawd-ffydd ó'r blaen.. "Yr wyf yn meddwl mai Arrius yw tad cenawon y Fall y rhai a gyfodasant yn ddiweddar yn ein hoes ni, sef y Crynwyr." A ganlyn yw ei baragraiffau a gwtogwyd gennym ar Pelagius. Pennaeth y gymdeithas hon oedd Gymro genedigol o Wynedd a elwid tra yr arhosodd yn ei wlad ei hun Morgan, am ei eni ar lann y môr ond ar ôl myned.i'r Ital ym mysc y Lladinwyr efe a newidiodd ei Enw i Pelagius, gair o'r un ystyr yn Lladin ac yw Morgan yn Gymraeg. O ran pryd ac agwedd corph nid oedd efe ond gwr lled afluniaidd, canys fe ddywedir ei fod efe yn Clamp o ddyn tew gwddfraisc, ysgwyddgam ac unllygeidiog. Ond am Gyneddfau naturiol ei Enaid yr oedd ynddo Synwyr faith, yn wr dyscedig dros ben, yn gydnabyddus a holl Ddysc- eidiaeth ddynol a Difynyddiaeth, ac hefyd yn wr o Fuchedd ac Ymarweddiad glan, syber a diargyoedd cyn belled ag y gallai dyn farnu." A phan ddycpwyd efe i atteb drosto ei hun o flaen y Gymanfa honno a gynhaliwyd yn Lyda tref o Judaea lle'r oedd pedwar Escob ar ddeg wedi ymgynnull, nid ellid cael craff nac achlysur i feio arno." Nid yn unig fe'i ganed yng Ngwynedd, "ond efe a gafas ei ddygiad yn y gynt Fonachlog fawr a godidog a mammaeth pob dysceidiaeth, Bangor-is-y-coed." Fe welir yn amlwg mai triniaeth dyner a llawn o gydym- deimlad a gafodd Pelagius ar law Theophilus Evans. I derfynu, barnwn na ellir .gwneud yn well na dyfynnu para- graff enwog Emrys ap Iwan ar Theophilus Evans "Yn ei feistrolaeth ar eiriau a phriodebion y Gymraeg nid yw Theo. Evans yn ail i neb. Eithr nid er mwyn ei Gymraeg yn unig y dylid astudio'r awdur hwn, ond hefyd oblegid ei fawr ddawn, sydd bob amser yn ffrydio mor ddiymdrech â dwfr allan o ffynnon. Y mae ganddo agos cymaint o allu i adrodd, neu yn hytrach i chwedleua ag sy gan awduron y Mabinogion, ac yn ei allu i ddarlunio y mae o'n rhagori ar bob awdur Cymraeg. Y mae'n ddiau gennyf y gwnâi well gohebydd rhyfel na neb" a sgrifennodd i bapurau Llundain o amser brwydr Waterloo hyd amser brwydr Plevna." Pontardawe. DAVID THOMAS.