Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tua'r flwyddyn 1610 er na chyhoeddwyd ef tan 1893 pan gymerth Syr John Rhys ac A. W. Moore, Llefarwr Senedd Ynys Manaw, y gwaith mewn llaw. Yn rhagair Moore ceir popeth a wyddys am amseriad y llyfr, ond cofier nad oes gennym heddiw ond un copi ohono, sef y llawysgrif yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Douglas, a ysgrifennwyd rhwng 1625 a 1630 (gweler tystiolaeth Moore am yr amseriad). Am hynny tuedd rhai ysgolheigion yw siarad am Lyfr Gweddi 1625." Y mae'r trosiad hwn yn ddiddorol iawn i'r efrydydd. Nid yw yn yr un orgraff â'r Beibl sydd bellach yn safon orgraff i'r iaith, ond ar gyfundrefn sydd yn nes o lawer at werth Cymraeg y llafariaid; mae'r cytseiniaid beth bynnag wedi eu benthyca o'r orgraff Saesneg. Yn ôl un dystiolaeth (y Ficeriaid-cyffredinolj nid traddodiadol mo'r orgraff hon. Gan mai'r esgob newydd ei hun a drosasai'r llyfr, mae'n debyg iawn iddo ddyfeisio'r orgraff hefyd. Pan ystyrier y gwerth a roddai i'r llafariad y, mae'n eglur ei fod wedi seilio ei gyfundrefn ar orgraff gyfoes ei iaith ei hun,-canys ganed Phillips yng Ngogledd Cymru. Yn ôl pob tebyg ni fedrai'r Ficeriaid-cyffredinol unrhyw iaith arall heblaw'r Saesneg; dyna'r pam y dywedodd un ohonynt na fedrai ddarllen y llyfr o gwbl a'i fod yn meddwl y byddai'r gweddill o'r gweinidogion yn yr un anhawster oherwydd sillefir y llyfr a llafariaid nad ydynt yn eu hadnabod." Bwriad yr esgob ei hun oedd cael argraffu'r gyfrol, ond am ryw reswm, nid ymddangosodd. Awgrymodd y Ficeriaid- cyffredinol nad oedd gwaith Phillips yn drosiad cywir, ond y mae'r cyfieithiad yn dda a chlir iawn, er ei fod yn cynnwys geiriau ac ymadroddion sydd yn awr wedi heneiddio. Darllened y sawl a fynno weled hyn, y testun yn y Beibl ymyl yn ymyl â'r darn o Epistol at yr Effesiaid a argreffir isod. Ceir y geiriau hyn sydd yn awr wedi diflannu-ejy (eilley, arfogaeth), playt- ught (breast-plate, dwyfronneg), ghon (son, am), salet (helmet, helm), goni (kinjagh, cyson), a chianchy (kianlt, wedi eu rhwymo). Ond os trawslythrennir trosiad Phillips i'r orgraff ddi- weddarach a newid dipyn ar hen eiriau, nid oes anhawster yn y testun. Cynnwys holl Lyfr y Salmau a rhan fawr o'r Testament Newydd. Gwnaethpwyd y gwaith yn drwyadl, gan droi y rhudd-