Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn anffodus y mae'r ddalen ddilynol ar goll hefyd, fel na chawn ddim o hanes y cychwyn. Y cofnod nesaf yw Sul, Gorffennaf 7. Ail gychwyn wrth ager-fad. Haul yn machlud dros Isle-o'-Mann." Yno yr oeddynt drannoeth, ond erbyn dydd Mawrth yr oeddynt ar gyfer Iwerddon er nad oedd ond ychydig wynt." Dydd Mercher cododd gwynt cryf-a Mary'n dechrau mynd yn sâl, bwyta dim." Drannoeth yr oedd yntau hefyd yn sâl. Am rai dyddiau yr oedd yr hin yn para'n arw a'r llong yn mynd yn dda ond ninnau'n para'n sal." Sul, 14, môr aflonydd, glaw, mynd ymlaen ddim. Llun, 15, môr tawel, mynd ond; ychydig. Mawrth 16, glaw a gwynt teg, saelio'n dda. Mercher, 17, teg a 'chydig wynt. Mary a minnau'n gwella "-arwydd o hynny yw bod Mary, druan wladaidd, o gwr pellaf Nant-yr-Eira, ar ganol Môr Iwerydd yn hiraethu am gweirio gwair." Dydd Sul, 21, cafwyd pregeth dda ragorol am chwech o'r gloch ar Eph. 5 Ben." Digon anwadal oedd y tywydd ac anwastad y mordwyo. Ambell ddiwrnod gwynt cryf, mynd yn hynod ffest ac ambell fyrddiad 0 lestri yn chwaltt," dro arall diwrnod teg a mynd ond ychydig." Diwrnod ystormus oedd y Sul olaf o Orffennaf. Cafwyd pregeth ddwywaith er hynny, ar 2 Colos- iaid, ii, 11. a 1 Thesaloniaid iii. Erbyn y nos yr oedd yn wyntog lawog, a'r saelars i gyd ar waith." Ynghanol yr helynt fe gofiodd William Jones mai'r bumed bennod o Ephesiaid oedd "i'w dysgu gan Ysgol Tir Ucha i'w hadrodd yn Beulah (Nant- yr-Eira). Chwythodd y stonn ei phlwc a dyna gyfnod o lonydd- wch wedyn a niwl tew am chwe diwrnod yn nechrau Awst. Erbyn hyn yr oeddynt yn nesu. Wedi mynd yn dda ddydd Gwener a dydd Sadwrn, Awst 9 a 10, mynd yn symol ddydd Sul, a dim ond wrth steam ddydd Llun, cyrhaeddwyd New York Custom House, ddydd Mawrth, Awst 13, wedi treulio chwech wythnos ar y môr. Nid arosasant ddim yn Efrog Newydd ond cychwyn y diwrnod hwnnw am Albany, taith deuddydd. Gadawsant Albany drachefn yr un noson a chyrraedd Schenectady ddydd Gwener ac Utica ddydd Sadwrn, Awst 17. Yn y gymdogaeth y buont hyd ddydd Llun, Medi 2, yn aros gyda gwahanol gydnabod­-John D. Lewis, Rowland Rees, James Thomas, Hugh Jones. John Jones-yna James Thomas yn ein hebrwng i Utica at Rd Davies." Aros-