Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

luniau o'r Forwyn Fendigaid oeddynt canys yr oedd yr enw Mary ar un a Maria ar y llall. Anrhegion go ryfedd i ferched yr hen annibynnwr cadarn Thomas Ifans, blaenor-y- gân, un 0 golofnau eglwys Beulah, onidè? Enid PIERCE ROBERTS. Bangor. Adolygiadau SOPHOCLES ANTICONE. Troswyd o Foeg gan W J. Gruffydd. Td. 66.. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1950. 3/6. Cyfieithiad da yw hwn gan yr Athro Gruffydd, a chyfieithiad 'y gellir gobeithio y bydd ein cwmnïau drama gorau ni yn arbrofi ar ei lwyfannu. Ond nid, bid sicr, heb gyfarwyddyd cymwys gan rai a wyr rywbeth am broblemau drama Groeg, sydd â'i chonfensiynau mor wahanol i'r eiddo drama ein hoes ni. Mae'r cyfieithiad yn ddigon ystwyth i'w ystyried yn ddrama wreiddiol, a bydd yn gaffaeliad gwir i ystôr brin stoc ein cwmnïau. Nid wyf am i'r feirniadaeth a ddilyn daflu unrhyw amheuaeth ar werth y cyfieithiad fel drama; ond rhaid cofio mai trosiad o Roeg Sophocles sydd gerbron, a'i ystyried yn fanwl fel y cyfryw. Mae nifer o linellau'r gwreiddiol heb eu cyfieithu, a dylai'r cyfieithydd fod wedi rhybuddio'i ddarllenydd o'i fwriad yn hyn o beth. Mae rhesymau da am adael allan 904-920, ond nid mor hawdd gweld pam y gadewid 196, 374—5, 558, 663—665, 7I9—722, 851, 876—882, 1159, 1326. Nid yw hyd Antigone ond rhyw 1350 0 linellau fel nad oedd gofyn am dorri arni oherwydd e. bod yn rhy hir. Un rheswm, mi gredaf, oedd arddull briod Sophocles a hoffa gyfleu syniad fel petai ar ddwywaith, a'r ail frawddeg dim ond yn lliwio beth ar y gyntaf. Cymerer 1325-1326, lle cyfieithia G. "Da yw dy gyngor, od oes da mewn drwg heb fynd ymlaen fel Sophocles, Gwell bod yn fyr y drwg a fo wrth law." Cyffelyb yw 1159, Ffawd sy'n dyrchafu, ffawd sy'n gostwng hefyd." A dylid ei ddilyn gan Y truan a'r llwyddian- nus yn eu tro," lle mae "o ddydd i ddydd yn llinell nesaf G. yn anghywir. Fe sylwir bod elfen o gyffredinedd a ymyla ar bathos yn y llinellau nas cyf- eithiwyd. Yn ei ragymadrodd lle dywed Gruffydd am Roeg y ddrama "Nid iaith pob dydd ydyw y mae'n gorbwysleisio ac yn defnyddio geiriau sy'n fwy gwir am Aischylos nag am Sophocles. Y mae diweddebau (cliches) bach gan Sophocles yn mynegi syniad ystrydebol mewn geiriau cyffredin bob dydd. Mewn un man arweiniodd hyn y cyfieithydd i brofedigaeth. Hwn yw'r Corawd a gyfieithir ar dudalennau 37, 38. Ar ôl y geiriau yn y trydydd pennill, Yn llachar lys Olympus bell ddi-lyth," dyma a sgrifennodd Sophocles a'i gyfieithu yn ei foelni cynhenid.: ac fe geir y ddeddf hon yn