Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac ni fernais fod cymaint grym yn d' orchymynion di i beri imi, feidrol egwan, herio di-ysgrif a di-ymod ddeddfau'r nef. Cans neb ni wyr eu hoed a'u hanfod hwy,- nid heddiw ac nid doe ond yn dragwyddol. Pa ateb rown i'r duwiau, pe bawn i, Gan ofni gwg y balch, yn torri'r rhain?" Croeso i'r gyfrol gyntaf o Gyfres y Werin newydd, a buan y dêl eraill teilwng hwythau i sefyll yn llinach yr Antìgone. Aberystwyth. J. HENRY JONES. A CELTIC MISCELLANY. Translations from The Celtic Literatures. By Renneth Hurlstone Jachson. Routledge & Kegan Paul. Pp. 359.. 18/ Fe gynnwys y gyfrql hardd hon 244 o ddarnau (rhyddiaith a barddon- iaeth) 0 lenyddiaethau'r ieithoedd Celtig wedi eu cyfieithu i'r Saesneg. Fe gynrychiolir chwech o ieithoedd ac ymestyn y cyfnod dros dair canrif ar ddeg. Gwyddeleg a Chymraeg, yn naturiol ddigon, sy'n cael y lle amlycaf. Fe ddosbarthwyd y darnau yn ôl natur y cynnwys, ac yohwanegwyd pwt o wybodaeth fuddiol ar ddiwedd pob un. Y mae yma hefyd nodiadau cyn- hwysfawr ar ddechrau pob adran. heb sôn am nodiadau cyfeiriadol, etc., ar y diwedd, ac atodiad ar ynganu enwau priod. Cyfieithiadau newydd ydynt oU, ac mewn rhyddiaith, .gyda rhai eithriad- au. Yn ei Ragymadrodd fe eglura'r awdur ei ddull o gyfieithu-sef cadw mor agos ag yr oedd yn bosibl at eiriad y gwreiddiol, heb, wrth wneud hynny, lurgunio dim ar ramadeg Saesneg, a heb ddilyn dulliau ffansi a fu'n ffasiynol unwaith, yn arbennig wrth gyfieithu i'r Saesneg ar fydr. Fe sylweddolir wrth gwrs, fod cryn lawer o swyn a chelfyddyd gwreiddiol yn aml yn mynd ar goll er hyn i 'gyd, yn arbennig, er enghraifft, gyda chywydd ac englyn, ond y mae'r dull yn onest," o leiaf, ac wrth ddarllen y cyf- ieithiadau Saesneg fe ellir casglu llawer am natur y gwreiddiol. Y mae yma gynrychiolaeth dda o Gymraeg o'r cychwyn hyd tua diwedd y 19 ganrif, ond ni cheir dim llenyddiaeth "heddiw" yn y casgliad. Er bod blodeugerddi cyfieithiedig fel hyn o rai o'r ieithoedd Celtig wedi ymddangos o dro i dro, eto fe haedda'r flodeugerdd newydd hon groeso calonnog, oherwydd bod yr awdur, yr Athro Jackson, yn un o'n ysgolheigion Celtic blaenaf, yn eang ei ddiddordebau diwylliannol, ac yn synhwyrwr da ar lenyddiaeth. Wrth fod yn lladmerydd y Uenyddiaethau Celtig fel hyn, fe wna gymwynas ddirfawr. Gyda llaw, yr oeddwn yn falch o weled y troed-nodyni ar dudalen 7, ` Throughout this book Celtic literaíure is used as a convenient abbreviation for 'the literatures composed In the Celtic languages,' oherwydd bod cymaint o siarad am "Irish literature" a "Welsh literature" heddiw wrth gyfeirio at fathau o lenyddiaeth a ysgrifennir yn Saesneg. Gair bach arall yn y nodyn ar dud. 340 fe gyfeirir at y gair olffan. Mi hoffwn awgrymu mai llygriad o golchffon ydyw. Aberystwyth. T. H. PARRY-WILLIAMS.