Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Canmlwyddiant Methodistiaeth Cymru." Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Methodistiaeth Cymru gan y Parch. John Hughes, Lerpwl, yn 1851; yr ail yn 1854, a'r .drydedd yn 1856, bob un o'r tair dros 600 tudaÌen--anferth o dasg. Haedda'r gwaith mawr hwn sylw eleni, ganrif ar ôl ei gyhoeddi. Achlysur teg yw i ystyried ei werth. Nid wyf yn ddigon haerllug i dybio y gallaf newid barn neb arno, ond teimlaf ei bod yn bryd ail feddwl a cheisio ffurfio barn fwy cytbwys na'r un sydd yn ffynnu'n awr amdano. Cydnebydd pawb bellach ddylanwad y Diwygiad Methodist- aidd ar Gymru. Y mae'n naturiol ymofyn a chwilio am ei ddech- reuad a'i gynnydd. Canfu John Hughes y perygl i'r hanes hwnnw fyned i golli. Da oedd sicrhau a chadw hanes yr arwein- wyr cyntaf. Gwyddai pob Methodist rywbeth, mwy neu lai, am Howel Harris, Daniel Rowland. Williams, Pantycelyn, Howell Davies a Peter Williams. Ond pa beth a ddaethai o Fethodist- iaeth pe na bai ond mudiad ymysg ychydig wyr galluog? Onid un wedd ar fawredd Howel Harris a Daniel Rowland oedd eu dawn i gynnau tân yng nghalon llaweroedd eraill ? Ac ni byddai Methodistiaeth hebddynt hwy-y lliaws. Canfu John Hughes y perygl o'u anghofio hwy, y dynion cyffredin; ar waethaf traha'r mawrion, difaterwch, dirmyg, a gwarth, ac erlid gan gymdogion a chydnabod, cyfrifasant yn llawenydd ddioddef dros eu Method- istiaeth. Ni bu John Hughes yn brin yn ei wrogaeth i sylfaen- wyr y Corff Methodistaidd ni chuddiodd chwaith eu hymryson a'r gwrthdaro rhyngddynt. Gwybu hefyd ffyddlondeb ac aberth y lliaws dinod a di-enw yma a thraw drwy Gymru. Collesid llawer o'u hanes hwy, oni bai iddo ef mewn iawn bryd geisio ei gadw.