Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emrys ap Iwan. 1851-1906. Mis Mawrth diwethaf, yn Rhewl Rhyd y Cilgwyn, yn Nyffryn Clwyd, dathlwyd canmlwyddiant geni Emrys ap Iwan, un o Gymry mwyaf ei oes, llenor ac ysgolhaig, gwladgarwr a Christ- ion. Yn ffyddlon i un o egwyddorion ei Homilïau bu Emrys ap Iwan farw yn ystod ei fywyd er mwyn cael byw ar ôl marw. Yn Nyffryn Clwyd y treuliodd ei oes; oddi allan i'r Dyffryn prin yr adnabyddid ef. Wedi ei farw a chyhoeddi y ddwy gyfrol o'i Homiliau a stori ei fywyd gan yr Athro Gwynn Jones yn 1912 y dechreuodd Cymru ganfod mawredd Emrys ap Iwan. Caf bleser ychwanegol o ddweud peth o'i hanes, oherwydd yr oedd yn un 0 gyfeillion fy nhad,-yr oedd iddo gyfeillion lawer ymysg amaethwyr Dyffryn Clwyd. Pan ddychwelodd Emrys ap Iwan i Gymru yn 1877 wedi treulio ohono agos i dair blynedd fel athro Saesneg ar y Cyfan- dir, gallasai fod wedi llenwi gydag anrhydedd gadair athro Ffrangeg neu Ellmyneg yn un 0 Brifysgolion y wlad. Nid yn unig siaradai'r ddwy iaith yn rhwydd ond meddai wybodaeth eang 0 hanes a llenyddiaeth y gwledydd hynny; am weddill ei oes ymhyfrydai yng ngweithiau eu llenorion a darllenai Dante yn ei iaith ei hun. Oherwydd ei allu eithriadol fel ieithydd cafodd gynnig swydd dda yn y Llysgenadaeth Brydeinig yn Belgrade, ond gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau yr Aifft" dewisodd Emrys ap Iwan ddychwelyd i Ddyffryn Clwyd i fod yn athro i'r rhai bach, i gysuro'r tlawd a'r trallodus, i adeiladu'r saint ac i gyfansoddi ei Homiliau, yr unig gyfoeth, yr unig drysor a dybiodd ef yn werth ei adael ar ei ôl. Fel un o Frodyr Sant Ffrancis yn y Canol Oesoedd dewisodd fyw yn dlawd,­-" o bydd gennym fwyd a dillad, ymfoddlonwn ar hynny" -ac yn ddi-briod, gan rannu i'r anghenog y rhan fwyaf o'r hyn a enillai. Unwaith, wrth ddarllen un o ganeuon Lamartine, sef Jocelyn, tybiais fy mod yn darllen hanes Emrys ap Iwan-plant, adar a blodau, pawb a phopeth oedd yn naturiol a di-rodres, y