Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nad yw'n ddim amgen na barbareidd-dra o'r fath waethaf wedi ei wyngalchu oddi allan." Credwn, ar bwys hanes y cyn-ddiluwiaid, mai crefydd ac nid gwareiddiad a geidw'r byd rhag boddi yn ei anwiredd ei hun. Gall plant y byd hwn fod yn feirdd, yn gerddorion, ac yn feistr- iaid yn yr holl gelfyddydau; ond ni bydd neb yn ddyn perffaith heb fod yn ddyn Duw. O na frysiai pawb yn yr oes hon i arddel Duw, fel y gallai rhyw hanesydd scrifennu am dani ar ol hyn Yna y dechreuodd dynion alw eu hunain ar enw yr Arglwydd." Gen. iv, 26. Ond ni ellir gwneuthur cyfiawnder â'r. homili drwy ddewis darnau fel hyn; rhaid ei darllen i gyd, ac onid ydyw gennych, chwiliwch amdani megis am drysor cuddiedig, canys dyna ydyw. Yn wir, trysorau yw'r Homilïau i gyd, er bod rhai ohonynt yn disgleirio yn fwy llachar na'r Heill. Y ffordd orau i bob Cymro a Chymraes ddathlu canmlwyddiant Emrys ap Iwan, un o wir saint y genedl, yn 1951, yw darllen yr HomilÏau, cânt yno addysg a diwylliant na cheir eu gwell, hyd y gwn i, yn llenyddiaeth unrhyw genedl. Ac er bod y rhagolygon yng Nghymru, yn ei phethau gorau, yn ymddangos yn bur dywyll i lawer ohonom, eto credwn yn ddibetrus na fydd i ysbryd dynion fel Emrys ap Iwan byth ddarfod o'r tir. Llundain. Os caru cofio 'rwyd Am ddolydd Dyffryn Clwyd, O cofia gofio'r dewr Sydd yno dan dy droed. Y mae yng Nghymru fyrdd O feddau ger y ffyrdd Yn balmant hyd yr hwn Y rhodia rhyddid byth. JOHN Hooson.